El Salvador
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
Arwyddair: Dios, Unión, Libertad (Sbaeneg: Duw, Uniad, Rhyddid) |
|||||
Anthem: Himno Nacional de El Salvador | |||||
Prifddinas | San Salvador | ||||
Dinas fwyaf | San Salvador | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
Arlywydd | Antonio Saca |
||||
Annibyniaeth O Sbaen O Weriniaeth Ffederal Canolbarth America |
15 Medi, 1821 1842 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
21 040 km² (153ain) 1.5 |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2006 - Cyfrifiad 1992 - Dwysedd |
7 miliwn (97ain) 5 118 599 318.7/km² (32ain) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $34.15 biliwn (93ain) $4700 (108fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.722 (104ydd) – canolig | ||||
Arian cyfred | Doler yr Unol Daleithiau (USD ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
(UTC-6) | ||||
Côd ISO y wlad | .sv | ||||
Côd ffôn | +503 |
Gweriniaeth Sbaeneg yng Nghanolbarth America sy'n ffinio â'r Cefnfor Tawel i'r de, Gwatemala i'r gorllewin, ac Hondwras i'r gogledd a'r dwyrain yw Gweriniaeth El Salvador neu El Salvador (Sbaeneg: República de El Salvador, IPA: /re'puβlika ðe el salβa'ðor/).
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Gorchfygwyd El Salvador, oedd yn rhan o'r Deyrnas Astecaidd, gan y Sbaenwyr yn 1526, ac enillodd annibyniaeth yn 1821. Roedd yn aelod o Ffederasiwn Canolbarth America tan ei ddiddymiad yn 1839, a daeth yn weriniaeth yn 1841. Yng nghanol yr ugeinfed ganrif rheolwyd y wlad gan unbenaethau a dioddefodd o ansefydlogrwydd gwleidyddol. Bu wrthdaro â Honduras yn 1965 ac yn Rhyfel Pêl-droed 1969. Parhaodd yr ansefydlogrwydd gwleidyddol i'r 1970au gyda gweithredoedd herwfilwrol yn erbyn y llywodraeth a gefnogwyd gan yr Unol Daleithiau. Yn dilyn bradlofruddiaeth Archesgob El Salvador Óscar Romero yn 1980 dechreuodd Rhyfel Cartref El Salvador, lle bu farw 75 000 a daeth nifer yn ffoaduriaid. Arwyddwyd cytundeb heddwch yn 1992; o dan delerau'r cadoediad cydnabuwyd y grŵp herwfilwrol asgell chwith Frente Farabundo Martí para la Liberación Nacional (FMLN) fel plaid wleidyddol ac aethant ymlaen i ennill seddi yn etholiadau deddfwriaethol 1994, pan ddaeth yr Alianza Republicana Nacionalista (ARENA) asgell dde i rym. Achosodd ddaeargrynfeydd difrod eang yn 2001.
[golygu] Gwleidyddiaeth
Llywodraethir El Salvador gan Arlywydd a etholir pob pum mlynedd, a Chynulliad Cenedlaethol democrataidd gyda 60 o aelodau.
[golygu] Daearyddiaeth
Mae dwy gadwyn folcanig sy'n llwybro o ddwyrain i orllewin El Salvador yn rhannu'r wlad yn dri rhanbarth daearyddol: llain gul arfordirol yn y de, dyffrynnoedd a llwyfandiroedd ucheldirol gydag uchder cyfartalog o 600 m yng nghanolbarth y wlad, a mynyddoedd yn y gogledd (gyda Santa Ana (2381 m) fel man uchaf y wlad). Mae'r Afon Lempa, sy'n croesi ffin ogleddol El Salvador â Honduras a gyda'i tharddle yng Nguatemala, yn rhedeg yn ddeheuol trwy'r wlad i'r Cefnfor Tawel. Mae nifer o lynnoedd folcanig yn El Salvador, ac mae daeargrynfeydd yn gyffredin.
[golygu] Adrannau a bwrdeistrefi
-
Gweler hefyd: Rhestr dinasoedd El Salvador
Rhannir El Salvador yn 14 o adrannau (departamentos), a phob un adran wedi'i isrannu'n 267 o fwrdeistrefi (municipios). Yr adrannau yw:
|
|
[golygu] Demograffeg
Mae tua 7 miliwn o bobl yn byw yn El Salvador; 90% ohonynt yn mestizo (hil gymysg), 9% yn wyn ac 1% yn frodorol. El Salvador yw'r wlad gyda'r dwysedd poblogaeth mwyaf yng Nghanolbarth America (318.7/km²). Mae 62% o'r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd trefol a 38% yn byw yng nghefn gwlad.[1] Mae 80% o Salfadoriaid yn Gatholigion Rhufeinig, 18% yn efengylaidd a 2% yn grefydd arall neu ddim yn dilyn crefydd o gwbwl.[1]
[golygu] Twristiaeth
[1]Mae nifer y twristiaid sy'n ymweld ag El Salvador wedi cynyddu yn sgil dyfodiad heddwch i'r wlad yn y blynyddoedd diweddar, gyda'r mwyafrif yn dod i fwynhau cyrchfannau arfordirol a thraethau El Salvador. Ond mae trosedd, daeargrynfeydd a chostau uchel am ystafelloedd a theithiau awyr dal i rwystro'r diwydiant.
Bu nifer y twristiaid yn cynyddu 29% yn 2002 i 951 000 o ymwelwyr, tua un am bob 6.8 Salfadoriad. Daeth 31% ohonynt o Guatemala, 22% o Unol Daleithiau America, 17% o Honduras a'r 30% gweddill o wledydd eraill.
[golygu] Addysg
[1]Seilir cyfundrefn addysg El Salvador ar yr un Americanaidd. Y lefel llythrennedd yw 79%; mae addysg wedi'i chyfyngu mewn ardaloedd gwledig. Mae gan El Salvador 118 491 o fyfyrwyr (2004), a'r oedran i adael ysgol yw 15.
[golygu] Cyfeiriadau
[golygu] Cysyllltiadau allanol
[golygu] Gwefannau'r llywodraeth
- (Sbaeneg) Casa Presidencial – Arlywydd El Salvador
- (Sbaeneg) Asamblea Legislativa – Cynulliad Deddfwriaethol
- (Sbaeneg) Ministerio de Defensa Nacional – Gweinyddiaeth Amddiffyn
- (Sbaeneg) Fuerza Aerea Salvadoreña – Awyrlu El Salvador
- (Sbaeneg) Ministerio de Medio Ambiente y Recursos Naturales – Gweinyddiaeth yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol
- (Sbaeneg) Ministerio de Relaciones Exteriores – Gweinyddiaeth Materion Tramor
- (Sbaeneg) Ministerio de Economía – Gweinyddiaeth yr Economi
- (Sbaeneg) Ministerio de Turismo – Gweinyddiaeth Twristiaeth
- (Sbaeneg) Corte Suprema de Justicia – Llys Gorchuaf am Gyfiawnder
- (Sbaeneg) Procuraduría para la Defensa de los Derechos Humanos – Swyddfa'r Barnwr-Llysddadleuwr-Cyffredinol dros Amddiffyniad Hawliau Dynol
- (Sbaeneg) Banco Central de Reserva de El Salvador – Banc Cronfa Ganolog El Salvador
[golygu] Gwefannau'r cyfryngau
[golygu] Gwefannau newyddion
- (Sbaeneg) La Prensa Grafica