Seineg
Oddi ar Wicipedia
Ieithyddiaeth |
Ieithyddiaeth ddamcaniaethol |
Seineg |
Ffonoleg |
Morffoleg |
Cystrawen |
Semanteg |
Semanteg eiriadurol |
Arddullegol |
Pragmateg |
Ieithyddiaeth hanesyddol |
Ieithyddiaeth gymdeithasegol |
Caffael iaith |
Ieithyddiaeth gymhwysol |
Ieithyddiaeth wybyddol |
Seineg yw'r astudiaeth o seiniau iaith lafar. Astudir priodweddau'r seiniau eu hunain, y modd y caent eu cynhyrchu, eu clywed a'u deall. Mae'n wahanol, felly i ffonoleg, astudiaeth o systemau seinegol haniaethol. Mae seineg yn ymdrin â'r seiniau eu hunain yn hytrach na'u cyd-destyn mewn iaith. Ni thrafodir semanteg ar y lefel hon o ddadansoddi ieithyddol.
Mae tair prif gangen i seineg:
- seineg ynganol, sy'n ymwneud â lleoliad a symudiad y gwefusau, y tafod, tannau'r llais ac yn y blaen;
- seineg acwstig, sy'n ymwneud â phriodweddau tonnau sain a sut caent eu derbyn gan y glust fewnol; a
- seineg clybydol, sy'n ymwneud â synhwyro lleisiau, yn bennaf sut mae'r ymenydd yn gallu cynrychioli mewnbwn lleisiol.
Astudiwyd seineg cyn gynhared â 2,500 mlynedd yn ôl yn yr India, gydag eglurhad y gramadegydd Panini o leoliad a natur ynganiad cytseiniaid yn ei draethawd gramadegol ar Sanscrit.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.