Swdan
Oddi ar Wicipedia
- Am y rhanbarth, gweler Swdan (rhanbarth).
|
|||||
Arwyddair: Al-Nasr Lana | |||||
Anthem: Nahnu Jund Allah Jund Al-watan | |||||
Prifddinas | Khartoum (Al Khartūm) | ||||
Dinas fwyaf | Omdurman (Umm Durmān) | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Arabeg | ||||
Llywodraeth | Unbennaeth | ||||
- Arlywydd | Omar al-Bashir |
||||
Annibyniaeth - Dyddiad |
o'r Aifft a'r DU 1 Ionawr 1956 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
2,505,813 km² (10fed) 6% |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2006 - Cyfrifiad 1993 - Dwysedd |
36,992,490 (33ain) 24,940,683 15/km² (194ain) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $84.75 biliwn (62ain) $2,396 (134ain) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.512 (141fed) – canolig | ||||
Arian cyfred | Dinar Sudan (SDD ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
EAT (UTC+3) EAT (UTC+3) |
||||
Côd ISO y wlad | .sd | ||||
Côd ffôn | +249 |
Gwlad fawr yng ngogledd-ddwyrain Affrica yw Gweriniaeth y Swdan neu Swdan (hefyd Siwdan neu Sudan). Mae'n ffinio â'r Aifft i'r gogledd, Eritrea ac Ethiopia i'r dwyrain, Cenia, Iwganda a Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo i'r de, Gweriniaeth Canolbarth Affrica a Tchad i'r gorllewin a Libya i'r gogledd-orllewin. Mae'r Môr Coch yn gorwedd i'r gogledd-ddwyrain ac mae Afon Nîl yn llifo trwy'r wlad.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
[golygu] Hanes gynnar Sudan
Hyd at gychwyn y 5ed ganrif bron iawn, cefnogodd Rhufain dylwyth y Nobatae, a defnyddient deyrnas Meroë fel amddiffynfa rhwng yr Aifft a thylwyth y Blemmyae. Tua'r flwyddyn 350, daeth annibyniaeth Meroë i ben, pan ddinistriwyd y ddinas gan fyddin o Abbyssinia.
[golygu] Teyrnasoedd Cristnogol
Erbyn y 6ed ganrif, ymddangosodd tair gwladwriaeth newydd: Nobatia yn y gogledd, Muqurra yn y canolbarth, ac Alawa (oedd a'i phrifddinas ger lle mae Khartoum erbyn hyn). Tua 540, anfonnodd Theodora, emerawdes Bysantiwm, gennad i hybu'r Efengyl Gristnogol yn Nobatia. Derbyniodd brenhinoedd Nubia awdurdod patriarcaid eglwys Coptig yr Aifft.
[golygu] Dyfod Islam
Wedi sawl ymgais aflwyddianus ar wladychiad milwrol, arwyddodd lluoedd Arabaidd o'r Aifft gyfres o gytundebau (AlBaqt) gyda'r Nubiaid. Bu'r cytundebau yn sail i berthynas yr Arabiaid a'r Nubiaid am gyfnod o dros 600 mlynedd. Lledaenodd Islam trwy'r ardal yn raddol iawn, trwy briodi a masnachu gyda mewnfudwyr a masnachwyr Arabaidd. Ym 1315, esgynodd tywysog o Fwslim o dras Nubiaidd i orsedd Dunqulah.
Ymddyngasodd dau grŵp Arabeg eu hiaith, y Jaali a'r Juhayna. Yn gorfforol, roeddynt yn ddi-dor gyda'r boblogaeth gyn-Islamaidd. Mae elfennau Arabaidd a Nubiaidd i ddiwylliant gogledd Sudan sydd ohonni.
[golygu] Teyrnas Sinnar
Yn y 17eg ganrif, ymddangosodd pobl y Funj yn neheubarth Nubia, gan gymryd lle adfeilion teyrnas Gristnogol, gan sefydlu As-Saltana az-Zarqa.
[golygu] Rheolaeth o'r Aifft - 1821-1885
Yn 1820, daeth gogledd Sudan dan reolaeth Muhammad Ali, rhaglaw yr Ymerodraeth Ottomanaidd yn yr Aifft. Gydag annogaeth o Brydain, ceisiodd Ismail Pasha, estyn y ddylanwad Eifftaidd tua'r de yn y blynyddoedd 1863-1879.
[golygu] Gwrthryfel Mahdaidd
Ysgogwyd Muhammad ibn Abdalla i arwain wrthryfel oherwydd cam-lywodraeth Eifftaidd a dymuniad i burháu Islam yn Sudan. Ym 1885, lladdwyd y Cadfridog prydeinig Charles George Gordon, gadawodd yr Eifftiaid, a sefydlwyd wladwriaeth grefyddol Mahdaidd newydd.
Aelodau Cynghrair y Gwledydd Arabaidd | |
---|---|
Yr Aifft | Algeria | Bahrain | Comoros | Djibouti | Gwlad Iorddonen | Irac | Kuwait | Libanus | Libya | Mauritania | Moroco | Oman | Palesteina | Qatar | Saudi Arabia | Somalia | Syria | Swdan | Tunisia | UAE | Yemen | |