Y Llychlynwyr
Oddi ar Wicipedia
Roedd y Llychlynwyr (unigol Llychlynnwr) yn fasnachwyr, gwladychwyr a (weithiau) yn fôr-ladron, o Scandinafia. Roeddent yn masnachu, yn brwydro ac yn adeiladu gwladfeydd ledled moroedd ac afonydd Ewrop ac ar arfordir dwyreiniol Gogledd America o 800 hyd 1050. Roedden yn galw eu hunain yn Northwyr (Gwŷr y Gogledd), fel y gwneir gan Scandinafiaid modern sydd yn galw eu hunain yn nordbor.
Enw'r Llychlynwyr yn Rwsia a'r Ymerodraeth Bysantaidd oedd y Varangiaid, o'r enw Væringjar, sef "dynyion a chleddyfau ganddynt". Roedden nhw yn rhan o warchodlu Ymerodwr Bysantiwm (y Gwarchodlu Varangiaidd]]).
Mae'r Llychlynwyr yn enwog iawn am frwydro yn ddiarbed ac yn gryf, ond roedden nhw yn grefftwyr a masnachwyr medrus iawn yn ogystal.
Heddiw mae disgynyddion y Llychlynwyr yn byw yn Norwy, Gwlad yr Iâ, Denmarc, Ynysoedd Faroe a Sweden.