Afon Ganga
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Afon Ganga (hefyd Ganges) yn afon fawr yng ngogledd India. Mae'n tarddu, dan yr enw Afon Bhagirathi, o rewlif Gangotri ym mynyddoedd yr Himalaya, ac yn uno ag Afon Alaknanda gerllaw Deoprayag i ffurfio'r Ganga.
Mae'r Ganga yn llifo tua'r dwyrain ar draws gogledd India cyn cyrraedd y môr ym Mae Bengal. Cyn cyrraedd y môr mae'n ymhahanu i nifer o afonydd llai, yn cynnwys Afon Hoogli ger Calcutta. ac Afon Padma, sy'n llifo trwy Bangladesh. Mae'r gair Ganga yn golygu "afon" yn yr iaith Hindi.
O gwmpas glannau'r afon, sy'n 2,507 km o hyd, ceir tir ffrwythlon sy'n gallu cynnal poblogaeth fawr. Yn 2005), amcangyfrifid fod 8% o boblogaeth y byd yn byw yn nalgylch y Ganga. Yn yr afon ceir dau rywogaeth o ddolffin sy'n unigryw iddi.
Ystyrir y Ganga yn afon sanctaidd mewn Hindwaeth, a chaiff ei chynyrchioli gan y dduwies Maa Ganga (mam Ganga). Ceir nifer o leoedd sanctaidd ar lannau'r afon, yn cynnwys Varanasi a Haridwar. Dywedir fod ymdrochi unwaith yn yr afon yn dileu un pechod. Wedi llosgi corff marw, mae rhoi'r lludw yn y Ganga yn fodd i osgoi cylch ad-eni.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae llygredd yn yr afon wedi datblygu'b broblem fawr, yn rhannol oherwydd fod cymaint o lwch dynol, a chyrff heb eu llosgi, yn cael eu rhoi yn yr afon.