Bae Colwyn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bae Colwyn Conwy |
|
Mae Bae Colwyn yn dref arfordirol ym mwrdeistref sirol Conwy, gogledd Cymru. Mae hi yn sir seremonïol Clwyd, ac yn y Sir Ddinbych draddodiadol. Mae priffordd yr A55 yn pasio drwy'r dref ac mae ganddi orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae'n dref wyliau gyda phromenâd braf, pier a pharciau. Mae'r traeth yn llydan a diogel gyda thywod braf a rhimyn o gerrig mân. Mae'n dal i fod yn ganolfan siopa brysur er gwaethaf y gystadleuaeth o du'r archfarchnadau mawr. Lleolir pencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mharc Eirias. Ceir yn ogystal nifer o swyddfeydd llywodraeth leol a'r gwasanaeth sifil yn y dref, gan gynnwys rhai o swyddfeydd rhanbarthol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyn ad-drefnu llywodraeth leol yn Ebrill 1974 roedd Bae Colwyn yn Fwrdeisdref Ddinesig gyda phoblogaeth o tua 25,000, ond yn 1974 ddiddymwyd yr hen awdurdod i adael pum cymuned (seiledig ar y plwyfi). Mae gan Bae Colwyn yn ôl y diffiniad hwnnw boblogaeth o 9,742 (2001). Poblogaeth y cymunedau eraill a fu'n rhan o'r hen fwrdeisdref yw Mochdre (1,862), Llandrillo-yn-Rhos (7,110), Hen Golwyn (7,626) a Llysfaen (2,652). Erbyn heddiw mae'r pum plwyf yn un ardal drefol mewn gwirionedd, gyda phoblogaeth o 30,265 o bobl (2001), yr uchaf yng ngogledd Cymru ac eithrio Wrecsam.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Cnewyllyn y dref oedd Hen Golwyn ('Colwyn' yn wreiddiol) a Llysfaen i'r dwyrain a Llandrillo-yn-Rhos i'r gorllewin; tyfodd y dref rhwng y ddau le hynny (sy'n rhan o Fae Colwyn o safbwynt llywodraeth leol). Fel yn achos Llandudno a'r Rhyl, tyfodd Bae Colwyn yn gyflym yn ail hanner y 19eg ganrif, yn sgîl dyfodiad y rheilffordd yn 1848, a dechrau'r 20fed ganrif fel tref gwyliau glan môr hawdd i'w chyrraedd o drefi poblog gogledd-orllewin Lloegr.
Mae'r dref wedi dioddef problemau cymdeithasol ers y 1980au gyda nifer o bobl ddiwaith o ogledd Lloegr symud i mewn a'r canran hŷn o'r boblogaeth gynyddu ar yr un pryd wrth i bobl symud yno ar ôl ymddeol.
[golygu] Enwogion
- Ffred Ffransis - ganwyd yr ymgyrchydd dros yr iaith Gymraeg ym Mae Colwyn yn 1948
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Colwyn ym 1910, 1941 (Hen Golwyn) 1947 a 1995. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bae Colwyn 1910
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Hen Golwyn 1941
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bae Colwyn 1947
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bae Colwyn 1995
[golygu] Gefeilldref
[golygu] Cysylltiadau allanol
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Trefi a phentrefi Conwy |
Abergele | Bae Cinmel | Bae Colwyn | Betws-y-Coed | Conwy | Cyffordd Llandudno | Deganwy | Dolwyddelan | Gyffin | Henryd | Llandudno | Llanfairfechan | Llangernyw | Llanrwst | Llansannan | Penmachno | Penmaenmawr | Pentrefoelas | Trefriw | Ysbyty Ifan |