Ysbyty Ifan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Pentref yn sir Conwy yw Ysbyty Ifan. Lleolir y pentref ar lannau Afon Conwy ifanc, rhai milltiroedd i'r de o Bentrefoelas ar lôn y B4407 (sy'n cysylltu Pentrefoelas ar yr A5 â Ffestiniog.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Yr ysbyty
Daw ei enw o un o ysbytai Marchogion yr Ysbyty a sefydlwyd yno yn y flwyddyn 1190 gan Ifan Frys, yn ôl traddodiad; does dim olion o'r safle i'w gweld heddiw. Roedd gan yr ysbyty, a godwyd ar gyfer teithwyr a phererinion i Ynys Enlli, yr hawl gyfreithiol i fod yn noddfa ac arweiniodd hynny at sawl herwr guddio yno neu yn y cyffiniau. Parhaodd y sefyllfa felly hyd y 15fed ganrif pan roddodd yr uchelwr lleol Maredudd ap Ieuan derfyn arno.
[golygu] Y pentref
Mae pont deniadol sy'n dyddio o'r 18fed ganrif yn croesi Afon Conwy yn y pentref. Gerllaw ceir bythynnod traddodiadol sy'n nodweddiadol o bensaernïaeth werinol Eryri a'r cylch. Ar lan yr afon saif hen felin a adeiladwyd yn yr 17eg ganrif. Am gyfnod defnyddid olwyn dŵr y felin i gynhyrchu trydan (hyd 1961).
[golygu] Yr eglwys
Codwyd yr eglwys bresennol, Eglwys Sant Ioan, yn 1861 ar safle'r hen eglwys. Ynddi cedwir tair cofeb o'r hen eglwys, o Rys Fawr ap Maredudd, a ddygodd faner Harri Tudur ar Faes Bosworth, ei wraig Lowri, a'u trydydd fab Robert, a fu'n gaplan i'r Cardinal Wolsey.
[golygu] Enwogion
- Rhys Fawr ap Maredudd - marchog canoloesol
- Wiliam Cynwal - bardd o'r 16eg ganrif, enwog am ei ymryson barddol ag Edmwnd Prys
[golygu] Atyniadau eraill
- Llyn Conwy - tarddle Afon Conwy
- Y Migneint - corsdir eang sy'n lle da am adar
Trefi a phentrefi Conwy |
Abergele | Bae Cinmel | Bae Colwyn | Betws-y-Coed | Conwy | Cyffordd Llandudno | Deganwy | Dolwyddelan | Gyffin | Henryd | Llandudno | Llanfairfechan | Llangernyw | Llanrwst | Llansannan | Penmachno | Penmaenmawr | Pentrefoelas | Trefriw | Ysbyty Ifan |