Gyffin
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Pentref bach ger Conwy yng Ngogledd Cymru yw Gyffin (mae'r enw llawn Y Gyffin yn gywirach ond mae pawb yn ei galw'n Gyffin).
[golygu] Lleoliad
Lleolir Gyffin ar lôn y B5106 tua hanner milltir i'r de-orllewin o Gonwy, rhwng muriau'r dref honno a Bryn Eithin. Rhed Afon Gyffin ar hyd ochr ogleddol y pentref ar ei ffordd i aberu yn Afon Conwy, gan basio dan hen bont yng nghanol y pentref. Mae'r hen ffordd o Gonwy i Lanrwst yn rhedeg trwy'r pentref.
[golygu] Hanes
Er nad yw'n fawr o le heddiw a bod y rhan fwyaf o'r tai'n bur ddiweddar, mae gan Gyffin hanes hir. Safai treflan yn y Gyffin cyn i Edward I o Loegr godi castell a thref Conwy. Roedd llawer o'r tir yn perthyn i Abaty Aberconwy.
Mae Eglwys Gyffin yn hynafol. Fe'i cysgegrir i Sant Dominig heddiw ond tybir ei bod wedi'i chysegru i sant lleol yn wreiddiol.
Ganwyd y Dr Richard Davies, a gyfieithodd y Testament Newydd i'r Gymraeg, yn Gyffin yn y flwyddyn 1501. Plas y Person oedd ei gartref, ar safle ger y rheithordy presennol, ond does dim i'w weld o'r hen dŷ heddiw.
[golygu] Enwogion
- Richard Davies - esgob Lanelwy a Tyddewi (1501 - 1581)
Trefi a phentrefi Conwy |
Abergele | Bae Cinmel | Bae Colwyn | Betws-y-Coed | Conwy | Cyffordd Llandudno | Deganwy | Dolwyddelan | Gyffin | Henryd | Llandudno | Llanfairfechan | Llangernyw | Llanrwst | Llansannan | Penmachno | Penmaenmawr | Pentrefoelas | Trefriw | Ysbyty Ifan |