Pentrefoelas
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Y mae Pentrefoelas yn bentref gwledig yn ne-orllewin Conwy (ond yn yr hen Sir Ddinbych gynt). Mae'n sefyll ar gyffordd yr A5 a'r B5113, 7 milltir i'r de-ddwyrain o Lanrwst a hanner ffordd rhwng Cerrig-y-drudion a Betws-y-Coed.
[golygu] Hanes
Mae'r maen arysgrifiedig cynnar (gweler isod) a ddarganfuwyd wrth adeiladu'r rheilffordd, yn profi fod Pentrefoelas yn drigfan yn yr Oesoedd Canol cynnar. Plas Foel Las, i'r gogledd o'r pentref, oedd plas teuluol y Wynniaid.
[golygu] Yr eglwys
Mae'r eglwys yn bur gynnar ond cafodd ei hadnewyddu'n sylweddol yn y 19eg ganrif. Ar ei muriau gwelir cofeb i John Griffith (m. 1794) o Gefn Amlwch, a honnai fod yn un o ddigynyddion Rhys ap Tewdwr, Tywysog Deheubarth. Ond diddordeb pennaf yr eglwys yw'r beddfaen ag arno arysgrifen Ladin, sy'n dyddio o'r 5fed ganrif neu'r 6ed ganrif.
[golygu] Enwogion
- Eifion Wyn - treuliodd y bardd o Borthmadog gyfnod fel athro ysgol yn y pentref.
Trefi a phentrefi Conwy |
Abergele | Bae Cinmel | Bae Colwyn | Betws-y-Coed | Conwy | Cyffordd Llandudno | Deganwy | Dolwyddelan | Gyffin | Henryd | Llandudno | Llanfairfechan | Llangernyw | Llanrwst | Llansannan | Penmachno | Penmaenmawr | Pentrefoelas | Trefriw | Ysbyty Ifan |