Daearyddiaeth Ewrop
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae dadlau ynglŷn â union ffiniau Ewrop ac yn wir dywed rhai nad yw Ewrop yn gyfandir o gwbl, ond yn rhan o gyfandir Asia am nad oes ffîn naturiol bendant rhyngddynt. Y ffîn a dderbynnir fel arfer i wahanu'r ddau gyfandir yw mynyddoedd yr Ural sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de trwy ganol Rwsia. Y ffîn orllewinnol yw Cefnfor Iwerydd, ac i'r de mae Môr y Canoldir yn ffîn i'w wahanu oddi wrth Affrica.
O gymharu ag Asia nid yw Ewrop yn cael hafau mor boeth na gaeafau mor oer, oherwydd nad oes unman mor bell o'r môr ag yn Asia. Hefyd mae'r prif fynyddoedd yn rhedeg o'r gorllewin tuag at y dwyrain ac felly does dim i atal y gwyntoedd cynnes o'r môr rhag cyrraedd i mewn ymhell i'r tir.
Mae dyfroedd bas gerllaw glannau môr gorllewin Ewrop, ac o ganlyniad mae'n lle da i bysgota ac mae'r diwydinat pysgota yn bwysig i nifer o wledydd Ewrop.
Gwladychwyd Ewrop gyntaf gan bobl yn dod o Asia. daeth y Celtiaid cyn deidiau ni'r Cymry, yn wreiddiol o'r Dwyrain Canol i fyny drwy dde Ewrop
Mae hinsawdd Ewrop yn dymherus, gyda llawer o dir ffrwythlon. Mae llawer o haearn crai a glo yng ngoglredd-orllewin y cyfandir.