Dosbarthiad gwyddonol
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Dull o ddosbarthu organebau yn grwpiau, a defnyddir gan fiolegwyr yw Dosbarthiad gwyddonol neu dosbarthiad biolegol. Fe'i gelwir hefyd yn dacsonomeg wyddonol, ond rhaid gwahaniaethu rhyngddo â tacsonomeg werin oherwydd fod diffyg sylfaen wyddonol i dacsonomeg werin. Uned sylfaenol y system yw'r rhywogaeth. Mae'r system dosbarthiad modern yn seiliedig ar waith Carolus Linnaeus.
[golygu] System Hierarchaidd
Dyma'r hierarchaeth o dacsonau: Parth (lluosog: Parthau)
Teyrnas (Teyrnasoedd) Regnum
Is-deyrnas Subregnum
Uwch-ffylwm Superphylum
Ffylwm (Ffyla) Phylum ¹
Is-ffylwm Subphylum
Uwch-ddosbarth Superclassis
Dosbarth (Dosbarthiadau) Classis
Is-ddosbarth Subclassis
Uwch-urdd Superordo
Urdd (Urddau) Ordo
Is-urdd Subordo
Uwch-deulu Superfamilia
Teulu (Teuluoedd) Familia
Is-deulu Subfamilia
Llwyth (Llwythau) Tribus
Genws (Genera) Genus
Uwch-rywogaeth Superspecies
Rhywogaeth (Rhywogaethau) Species
Is-rywogaeth Subspecies
¹ Adran/Rhaniad/Dosbarthiad Divisio: dewis arall i Ffylwm ar gyfer planhigion, ffyngau a bacteria
[golygu] Enghreifftiau
Rhenc | Pryf ffrwythau | Bod dynol | Pysen | Amanita'r pryfed | E. coli |
---|---|---|---|---|---|
Parth | Eukaryota | Eukaryota | Eukaryota | Eukaryota | Bacteria |
Teyrnas | Animalia | Animalia | Plantae | Fungi | |
Ffylwm | Arthropoda | Chordata | Magnoliophyta | Basidiomycota | Proteobacteria |
Is-ffylwm | Hexapoda | Vertebrata | Magnoliophytina | Hymenomycotina | |
Dosbarth | Insecta | Mammalia | Magnoliopsida | Homobasidiomycetae | Gammaproteobacteria |
Is-ddosbarth | Pterygota | Placentalia | Magnoliidae | Hymenomycetes | |
Urdd | Diptera | Primates | Fabales | Agaricales | Enterobacteriales |
Is-urdd | Brachycera | Haplorrhini | Fabineae | Agaricineae | |
Teulu | Drosophilidae | Hominidae | Fabaceae | Amanitaceae | Enterobacteriaceae |
Is-deulu | Drosophilinae | Homininae | Faboideae | Amanitoideae | |
Genws | Drosophila | Homo | Pisum | Amanita | Escherichia |
Rhywogaeth | D. melanogaster | H. sapiens | P. sativum | A. muscaria | E. coli |
[golygu] Cysylltiadau allanol
Dosbarthiad Pethau Byw Canolfan Edward Llwyd, Prifysgol Cymru