Durrës
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Mae Durrës yn dref hanesyddol yng nghanolbarth Albania, ar lan Môr Adria.
Sefydlwyd Durrës gan y Groegiaid yn y 7fed ganrif CC. Erbyn heddiw hi yw prif ganolfan fasnachol y wlad a'i phorthladd pwysicaf.
Ymhlith adeiladau hynafol y dref y mae'r amffitheatr Rufeinig, a gloddiwyd yn ddiweddar, yn sefyll allan.
Mae cynhyrchion y dref yn cynnwys blawd, halen a briciau.