Joseff Stalin
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gwleidydd ac unben Sofietaidd oedd Joseff Stalin. Ganed Stalin ar 18 Rhagfyr, 1878 yn Gori, Georgia a oedd pryd hynny'n rhan o Ymerodraeth Rwsia, ac fe fu farw ar 5 Mawrth, 1953 yn Moscfa. Ei enw gwreiddiol oedd Joseph Vissarionovich Dzhugashvili (Georgeg: იოსებ ჯუღაშვილი; Rwsieg: Ио́сиф Виссарио́нович Джугашвили). Ar bapur, roedd yn Ysgrifennydd Cyffredinol Pwyllgor Canolog Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd (1922-1953), ond mewn gwirionedd roedd yn rheolwr y wlad o 1928 nes iddo farw.
Bu i'w bolisïau achosi lawer iawn o ddioddef yn yr Undeb Sofietaidd, ac mae'n debyg i'w gyfundrefn achosi tua 10 miliwn marwolaeth (Ond noder fod amcangyfrifon yn amrywio o 4 miliwn hyd at 20 miliwn).
Roedd yn un o arweinwyr cynghreiriol yr Ail Ryfel Byd, ynghyd â Winston Churchill a Franklin Roosevelt.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.