Margaret Thatcher
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Margaret Hilda Thatcher | |
Cyfnod mewn swydd | 4 Mai 1979 - 28 Tachwedd 1990 |
Rhagflaenydd: | James Callaghan |
Olynydd: | John Major |
Dyddiad geni: | 13 Hydref 1925 |
Lleoliad geni: | Grantham, Lincolnshire |
Plaid wleidyddol: | Ceidwadol |
Margaret Hilda Thatcher (née Roberts) (ganwyd 13 Hydref 1925), Prif Weinidog Ceidwadol Prydain 1979 i 1990, a'r ddynes gyntaf i ddal y swydd. Ni wnaeth neb fwy na hi i chwalu'r consensws gwleidyddol wedi'r Ail Ryfel Byd. Yr oedd yn bendefynol o estyn y farchnad rydd, ac yn ystod ei llywodraeth hi, preifateiddiwyd llu o wasanaethau cyhoeddus a diwydiannau a wladolwyd gan lywodraeth Llafur, gan gynnwys y rheilffyrdd, dŵr, trydan, nwy, olew, glo a dur.
Daeth yn symbol o'r gwrthdaro rhwng y chwith a'r dde ym Mhrydain, yn enwedig yn ystod Streic y Glowyr 1984 i 1985. Cymaint oedd ei dylanwad hi fel y llwyddodd i weddnewid gwleidyddiaeth Prydain yn gyfan gwbl, gan baratoi'r ffordd ar gyfer Llafur Newydd.
Rhagflaenydd: James Callaghan |
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig 4 Mai 1979 – 28 Tachwedd 1990 |
Olynydd: John Major |