Muhammad
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Sylfaenydd crefydd Islam oedd Muhammad neu Mohamed (570 - 8 Mehefin, 632). Ganwyd ef ym Mecca yn fab i Abd Allah a oedd yn aelod o deulu'r Hashimiaid o lwyth y Quraysh a bu farw ym Medina (yn Saudi Arabia heddiw). Bu farw ei dad cyn iddo gael ei eni a bu ei fam, Amina, farw pan oedd yn chwech oed.
Cafodd Muhammad weledigaeth yn 610, y gyntaf o nifer. Gwelodd yr angel Gabriel a chlywed llais yn dweud wrtho "Adrodd". Ar ôl oedi yn y diwedd derbyniodd Muhammad yr alwad. Arwyddocád y weledigaeth oedd iddo fod yn lladmerydd i'r gwirionedd dwyfol a dechrau lledaenu'r neges newydd.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.