Rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd ym Mhrydain
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Dyma restr o safleodd yn y Deyrnas Unedig sydd wedi cael eu henwebu a'u cadarnháu fel Safleoedd Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Mae'r rhestr yn cynnwys 17 o safleodd yn Lloegr (un ar y cyd â'r Almaen), pedwar yn yr Alban, dau yng Nghymru, un yng Ngogledd Iwerddon a thri yn Nhiriogaethau Prydain Dros Fôr. Cysidrir dau ar hugain o'r safleodd hyn yn 'ddiwylliannol', pedwar yn 'naturiol' ac un yn 'gymysg'. Isod ceir rhestr o'r safleodd o fewn pob gwlad yn ôl dyddiad eu hychwanegu i'r rhestr.

Taflen Cynnwys |
[golygu] Yr Alban
- 1986, 2004, 2005: St Kilda
- 'Naturiol' yn wreiddiol, wedyn wedi'i estyn i ddod yn 'gymysg' yn 2004
- 1995: Yr Hen Dref a'r Dref Newydd yng Nghaeredin
- 1999: Calon Orkney Neolithig
- Gan gynnwys Maeshowe, Cylch Brodgar, Skara Brae, Meini Stenness a safleodd eraill
- 2001: Lanark Newydd
[golygu] Cymru
- 1986: Cestyll a Muriau Trefi a godwyd gan Edward I o Loegr yng Ngwynedd, gan gynnwys Castell Biwmaris, Castell Caernarfon, Castell Conwy a Chastell Harlech
- 2000: Tirlun Diwydiannol Blaenafon
[golygu] Gogledd Iwerddon
- 1986: Sarn y Cawr ac Arfordir y Sarn (naturiol)
[golygu] Lloegr
- 1986: Castell ac Eglwys Gadeiriol Durham
- 1986: Ironbridge Gorge
- 1986: Côr y Cewri, Avebury a'r safleodd cysylltiedig
- 1986: Parc Brenhinol Studley gan gynnwys adfeilion Abaty Fountains
- 1987: Plas Blenheim
- 1987: Dinas Caerfaddon
- 1987, 2005: Ffiniau'r Ymerodraeth Rufeinig
- Mur Hadrian ar y cyd â'r Limes Germanicus yn yr Almaen
- 1987: Palas San Steffan, Abaty San Steffan ac Eglwys Santes Marged, San Steffan
- 1988: Eglwys Gadeiriol Caergaint, Abaty Sant Awstin ac Eglwys Sant Martin, Caergaint
- 1988: Tŵr Llundain
- 1997: Greenwich Forwrol
- 2001: Melinau Dyffryn Derwent
- 2001: Dorset a'r Arfordir Jurassic yn nwyrain Dyfnaint (naturiol)
- 2001: Saltaire
- 2003: Gerddi Botanig Brenhinol, Kew
- 2004: Lerpwl – Dinas Forwrol Fasnachol
- 2006: Cernyw a gorllewin Dyfnaint (naturiol)
[golygu] Tiriogaethau Prydain Dros Fôr
- 1988: Ynys Henderson (naturiol)
- 1995, 2004: Ynys Gough ac Ynys Inaccessible (natural)
- 2000: Tref hanesyddol St. George's, Bermuda a Cheyrydd Perthnasol
[golygu] Cysylltiadau Allanol
- Safle UNESCO (Saesneg yn unig)