Rudyard Kipling
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Awdur a bardd yn yr iaith Saesneg a anwyd ym Mumbai (Bombay) India oedd Joseph Rudyard Kipling (30 Rhagfyr, 1865 - 18 Ionawr, 1936). Roedd yn awdur cynhyrchiol ac mae nifer o'i straeon a nofelau'n lleoledig yn India. Mae'n enwocaf am ei lyfrau straeon i blant The Jungle Book (1894) a Just So Stories (1902). Cyhoedd hefyd y straeon byrion yn Plain Tales from the Hills (1888), y nofel Kim (1901), a'r cerddi Gunga Din ac If— yn y gyfrol Ballad Room Ballads and Other Verses (1892).
Am beth amser ar ôl ei farwolaeth, roedd yn amhoblogaidd yn nghylchoedd llenyddol oherwydd ei fod yn ymddangos yn amddifynwr o imperialaeth Orllewinol a'r Ymerodraeth Brydeinig yn neilltuol. Roedd yn fwyaf poblogaidd yn yr 1900au: fe'i wobrwyd â Gwobr Llenyddiaeth Nobel yn 1907 (y person ieungcaf i ennil y wobr ydyw).
Fe gynigwyd y teitlau "Syr" a "Llenor-fardd Prydeinig" iddo, ond fe wrthododd.
[golygu] Nofelau
- The Jungle Book (1894)
- Captains Courageous (1897)
- Kim (1901)
- Life's Handicap (1915)
- Puck of Pook's Hill (1906)
- Stalky & Co. (1899)
- The Light That Failed (1890)
- The Second Jungle Book (1895)
- The Story of the Gadsbys (1888)