Siarl I o Loegr a'r Alban
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Charles Stuart, Brenin Siarl I (19 Tachwedd 1600 - 30 Ionawr 1649) oedd Tywysog Cymru o 1616 hyd 1625, ac wedyn brenin Lloegr, yr Alban ac Iwerddon o 27 Mawrth 1625 tan ei ddienyddiad yn sgil Rhyfel Cartref Lloegr. Roedd ei deyrnasiad yn gyfnod o frwydro am rym rhwng y brenin a'r senedd. Yn bleidiwr brwd dros hawl ddwyfol brenhinoedd, gweithredai Siarl i gryfháu ei rymoedd ei hun, gan reoli heb y Senedd am gyfnod helaeth o'i deyrnasiad.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Bywyd cynnar
Yn ail fab i'r Brenin Iago VI o'r Alban a'i wraig Anne o Ddenmarc, cafodd Siarl ei eni ym Mhalas Dunfermline yn yr Alban ar 19 Tachwedd 1600. Ar farwolaeth Elizabeth I o Loegr yn mis Mawrth 1603, dyrchafwyd ei dad i orsedd Lloegr. Roedd Siarl yn blentyn eiddil, ac, ar y dechrau, fe'i gadawyd yn yr Alban yng ngofal nyrsys rhag ofn i'w iechyd waethygu ar y daith hir i Lundain.
[golygu] Ei gyfnod fel Tywysog Cymru
[golygu] Teyrnasiad cynnar
Esgynodd Siarl i orsedd Lloegr a'r Alban ar farwolaeth ei dad ar 27 Mawrth 1625. Ar 13 Mehefin o'r un flwyddyn, priododd Henrietta Maria, yn absenoldeb y ddau gymar. Roedd ei senedd gyntaf, oedd wedi agor ym mis Mai, yn erbyn y briodas o'r cyntaf am mai pabyddes oedd hi, ac ofnid y byddai Siarl yn lleddfu mesurau yn erbyn pabyddion a thanseilio Protestaniaeth fel crefyddol swyddogol y deyrnas.
[golygu] Brwydrau â'r Senedd
Roedd Siarl yn brwydo â'r Senedd yn ystod rhan helaeth o'i deyrnasiad.
[golygu] Y Rhyfel Cartref
[golygu] Achos llys a'i ddienyddio
Cyhuddiwyd Siarl o uchel frad ac uchel droseddau eraill ar 2 Ionawr 1649. Gwrthododd Siarl bledio gan fynnu nad oedd gan lys mo'r hawl i ddwyn achos yn erbyn brenin. Fe'i cafwyd yn euog, a llofnodwyd warant marwolaeth gan 59 o'r comisiynwyr ar 29 Ionawr 1649. Fe'i dienyddiwyd y diwrnod wedyn ar ffald o flaen y Banqueting House yn Llundain.
[golygu] Plant
- Siarl Iago Stuart (1629)
- Siarl II o Loegr a'r Alban (1630-1685)
- Mair Stuart (1631-1660)
- Iago II/VII o Loegr a'r Alban (1633-1701)
- Elisabeth Stuart (1635-1650)
- Anne Stuart (1637-1640)
- Catrin Stuart (1639)
- Harri Stuart (1640-1660)
- Henrietta Anne Stuart (1644-1670)
Rhagflaenydd: Iago VI/I |
Brenin yr Alban 27 Mawrth 1625 – 30 Ionawr 1649 |
Olynydd: Siarl II (gan 1660) |
Rhagflaenydd: Iago VI/I |
Brenin Loegr 27 Mawrth 1625 – 30 Ionawr 1649 |
Olynydd: Siarl II (gan 1660) |