Thomas Jefferson
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Thomas Jefferson (13 Ebrill 1743 - 4 Gorffennaf 1826) oedd trydydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, rhwng 1801 a 1809. Bu hefyd yn Is-Arlywydd rhwng 1797 a 1801 ac yn llywodraethwr talaith Virginia (1779-1781). Ef oedd prif awdur Datganiad Annibyniaeth America a sylfaenydd Prifysgol Virginia.
Ganed Jefferson yn Shadwell, Virginia ar yr 2 Ebrill 1743, yn ôl y Calendr Iwlaidd oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr Ymerodraeth Brydeinig yr adeg honno, neu 13 Ebrill yn ôl y Calendr Gregoraidd a fabwysiadwyd yn 1752. Ef oedd y trydydd o ddeg plentyn Jane Randolph a Peter Jefferson. Yn 1752, dechreuodd Jefferson fynd i ysgol a gedwid gan William Douglas, ac yn naw oed dechreuodd astudio Lladin, Groeg a Ffrangeg. Bu farw ei dad yn 1757 ac etifeddodd tua 5,000 acer o dir a dwsinau o gaethweision. Adeiladodd blas ar y tir yma, a alwodd yn Monticello.
Aeth i ysgol y Parchedig James Maury yn Fredericksburg rhwng 1758 a 1760, ac aeth i'r coleg yn Williamsburg yn 16 oed, lle bu'n astudio dan William Small. Yn ddiweddarach astudiodd y gyfraith, a thrwyddedwyd ef yn gyfreithiwr yn Virginia yn 1767.
Yn 1772, priododd wraig weddw, Martha Wayles Skelton (1748-1782). Cawsant chwech plentyn. Dywedir iddo hefyd gael nifer o blant gydag un o'i gaethweision, Sally Hemings, ond mae amheuaeth am hyn. Bu farw yn Monticello 4 Gorffennaf 1826.
Yn ôl traddodiad y teulu, roedd Jefferson o dras Cymreig, a'r teulu yn hannu o Eryri. Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Faenol ger Bangor yn 2006, dadorchuddiwyd cofeb i goffáu ei gysylltiad â'r ardal.
Arlywyddion Unol Daleithiau America | |
---|---|
Washington | J Adams | Jefferson | Madison | Monroe | JQ Adams | Jackson | Van Buren | W Harrison | Tyler | Polk | Taylor | Fillmore | Pierce | Buchanan | Lincoln | A Johnson | Grant | Hayes | Garfield | Arthur | Cleveland | B Harrison | Cleveland | McKinley | T Roosevelt | Taft | Wilson | Harding | Coolidge | Hoover | F Roosevelt | Truman | Eisenhower | Kennedy | L Johnson | Nixon | Ford | Carter | Reagan | GHW Bush | Clinton | GW Bush |