Arlywydd Unol Daleithiau America
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Arlywydd Unol Daleithiau America yn ben gwladwriaeth Unol Daleithiau America. Yn ôl cyfansoddiad UDA ef hefyd yw prifweithredwr y llywodraeth ffederal a chadbennaeth y lluoedd arfog.
Caiff yr arlywydd ac is-lywydd UDA eu hethol gan Goleg Etholiadol UDA bob yn bedair mlynedd. Mae pob talaith yn anfon yr un nifer o etholwyr i'r coleg etholiadol ag sydd ganddynt o seneddwyr a chynrychiolwyr yng Nghynres UDA. Mae'r etholwyr yn ymrwymo i bleidleisio yn ôl canlyniadau etholiad cyffredinol a gynhelir ym mhob talaith ar yr un diwrnod.
[golygu] Rhestr Arlywyddion Unol Daleithiau America
- George Washington (1789-1797) (dim plaid gwleidyddol)
- John Adams (1797-1801) Ffederalwr
- Thomas Jefferson (1801-1809) Gweriniaethwr-Democrataidd
- James Madison (1809-1817) Gweriniaethwr-Democrataidd
- James Monroe (1817-1825) Gweriniaethwr-Democrataidd
- John Quincy Adams (1825-1829) Gweriniaethwr-Democrataidd
- Andrew Jackson (1829-1837) Democrat
- Martin Van Buren (1837-1841) Democrat
- William Henry Harrison (1841) Chwig
- John Tyler (1841-1845) Chwig (Democrat ar docyn Chwig)
- James Knox Polk (1845-1849) Democrat
- Zachary Taylor (1849-1850) Chwig
- Millard Fillmore (1850-1853) Chwig
- Franklin Pierce (1853-1857) Democrat
- James Buchanan (1857-1861) Democrat
- Abraham Lincoln (1861-1865) Gweriniaethwr
- Andrew Johnson (1865-1869) Gweriniaethwr (Democrat ar docyn Gweriniaethwr)
- Ulysses S. Grant (1869-1877) Gweriniaethwr
- Rutherford B. Hayes (1877-1881) Gweriniaethwr
- James Abram Garfield (1881) Gweriniaethwr
- Chester Alan Arthur (1881-1885) Gweriniaethwr
- Grover Cleveland (1885-1889) Democrat
- Benjamin Harrison (1889-1893) Gweriniaethwr
- Grover Cleveland (1893-1897) Democrat (ail term arlywydd 22)
- William McKinley (1897-1901) Gweriniaethwr
- Theodore Roosevelt (1901-1909) Gweriniaethwr
- William Howard Taft (1909-1913) Gweriniaethwr
- Woodrow Wilson (1913-1921) Democrat
- Warren Gamaliel Harding (1921-1923) Gweriniaethwr
- Calvin Coolidge (1923-1929) Gweriniaethwr
- Herbert Hoover (1929-1933) Gweriniaethwr
- Franklin Delano Roosevelt (1933-1945) Democrat
- Harry S. Truman (1945-1953) Democrat
- Dwight D. Eisenhower (1953-1961) Gweriniaethwr
- John F. Kennedy (1961-1963) Democratwr
- Lyndon Johnson (1963-1969) Democratwr
- Richard Nixon (1969-1974) Gweriniaethwr
- Gerald Ford (1974-1977) Gweriniaethwr
- Jimmy Carter (1977-1981) Democratwr
- Ronald Reagan (1981-1989) Gweriniaethwr
- George H.W. Bush (1989-1993) Gweriniaethwr
- Bill Clinton (1993-2001) Democratwr
- George W. Bush (2001-heddiw) Gweriniaethwr