Y Ddwyryd
Oddi ar Wicipedia
Mae'r Ddwyryd (Saesneg: Druid) yn bentref bychan yn ne-orllewin Sir Ddinbych. Llurguniad o'r enw Cymraeg gwreiddiol yw'r ffurf Saesneg Druid; nid oes unrhyw gysylltiad hanesyddol rhwng y pentref â'r derwyddon. Daw enw'r pentref o'i sefyllfa ger dwy ryd gerllaw, un ar afon Ceirw, sy'n rhedeg i afon Dyfrdwy yn is i lawr y dyffryn, a'r llall ar ffrwd fechan sy'n llifo i'r afon honno.
Saif y pentref gwledig ar groesffordd yr A5 a'r A494, tua 2 filltir i'r gorllewin o Gorwen. Mae'r cymunedau bychain cyfagos yn cynnwys Four Crosses a Glan-yr-afon i'r de, Y Maerdy i'r gorllewin a Betws Gwerful Goch i'r gogledd.
Trefi a phentrefi Sir Ddinbych |
Aberchwiler | Betws Gwerful Goch | Bodelwyddan | Bodfari | Bontuchel | Bryn Saith Marchog | Bryneglwys | Cefn Meiriadog | Corwen | Cyffylliog | Cynwyd | Derwen | Dinbych | Diserth | Y Ddwyryd | Efenechtyd | Eryrys | Gallt Melyd | Glyndyfrdwy | Gwyddelwern | Henllan | Llanarmon-yn-Iâl | Llanbedr Dyffryn Clwyd | Llandegla-yn-Iâl | Llandrillo | Llandyrnog | Llanelidan | Llanelwy | Llanfair Dyffryn Clwyd | Llanferres | Llangollen | Llangwyfan | Llangynhafal | Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch | Llanynys | Melin y Wig | Nantglyn | Pandy'r Capel | Prestatyn | Prion | Rhewl | Rhuallt | Rhuddlan | Rhuthun | Y Rhyl | Sodom | Tafarn-y-Gelyn | Trefnant | Tremeirchion |