Bryn Saith Marchog
Oddi ar Wicipedia
Pentref bach gwledig yn rhan uchaf Dyffryn Clwyd, de Sir Ddinbych, yw Bryn Saith Marchog (neu Brynsaithmarchog). Saif ar lan ddwyreiniol Afon Clwyd gyferbyn â phentref Derwen, tua 5 milltir i'r gogledd o Gorwen. Mae ar yr A494.
Cyfeirir at Fryn Saith Marchog yng Nghainc Gyntaf y Mabinogi, chwedl Branwen ferch Llŷr. Cyfeiriad onomastig i esbonio enw lle ydyw. Pan â Bendigeidfran i Iwerddon mae'n gadael saith tywysog a'u saith marchog i warchod Ynys Prydain. Nid enwir y marchogion ond ceir cyfeiriad at y lle:
- 'Yn Edeirn[i]on yd edewit y gwyr hynny, ac o achaws hynny y dodet Seith Marchawc ar y dref.'
- Pedair Cainc y Mabinogi, tud. 38
Mae Ifor Williams yn nodi, gan ddilyn awgrym yr Athro Joseph Loth, fod 'seith/saith' yn gallu golygu "sant" mewn Cymraeg Canol. Mae'n bosibl felly mai "Bryn Sant Marchog" a olygid yn wreiddiol (ceir enghreifftiau o'r enw 'Sadwrn Farchog' am Sant Sadwrn hefyd).
[golygu] Cyfeiriadau
- Ifor Williams (gol.), Pedair Cainc y Mabinogi (Caerdydd, 1930). Tud. 191.
Trefi a phentrefi Sir Ddinbych |
Aberchwiler | Betws Gwerful Goch | Bodelwyddan | Bodfari | Bontuchel | Bryn Saith Marchog | Bryneglwys | Cefn Meiriadog | Corwen | Cyffylliog | Cynwyd | Derwen | Dinbych | Diserth | Y Ddwyryd | Efenechtyd | Eryrys | Gallt Melyd | Glyndyfrdwy | Gwyddelwern | Henllan | Llanarmon-yn-Iâl | Llanbedr Dyffryn Clwyd | Llandegla-yn-Iâl | Llandrillo | Llandyrnog | Llanelidan | Llanelwy | Llanfair Dyffryn Clwyd | Llanferres | Llangollen | Llangwyfan | Llangynhafal | Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch | Llanynys | Melin y Wig | Nantglyn | Pandy'r Capel | Prestatyn | Prion | Rhewl | Rhuallt | Rhuddlan | Rhuthun | Y Rhyl | Sodom | Tafarn-y-Gelyn | Trefnant | Tremeirchion |