A5025
Oddi ar Wicipedia
Un o brif lonydd Ynys Môn yw'r A5025. Mae'n ymestyn fel hanner cylch drwy ochr ddwyreiniol yr ynys, rhwng Porthaethwy a'r Fali, gan gychwyn a gorffen ar yr A5.
Mae'r trefi a phentrefi ar y ffordd yn cynnwys (o Borthaethwy) Pentraeth, Benllech, Llanallgo (gyda estyniad byr i Foelfre), Amlwch, Porth Llechog (ei phwynt mwyaf gogleddol), Cemaes, Llanrhuddlad, Llanfaethlu a Llanfachraeth.