Moelfre
Oddi ar Wicipedia
Mae Moelfre yn bentref ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn, tua hanner y ffordd rhwng Benllech ac Amlwch. Pysgota oedd prif weithgaredd y trigolion yn y gorffennol, ond yn awr mae'n bentref gwyliau pur boblogaidd. Mae yno harbwr bychan, ac heb fod ymhell o'r pentref mae ynys fechan, Ynys Moelfre. Gellir dilyn Llwybr Arfordirol Ynys Môn trwy'r pentref.
Mae Moelfre yn adnabyddus fel y man lle drylliwyd y llong Royal Charter ym mis Hydref 1859 tra'n hwylio o Awstralia i Lerpwl. Drylliwyd hi ar y creigiau rhwng y pentref a Thraeth Lligwy, ac mae cofeb yn nodi'r fan. Bu farw tua 450 o bobl; y nifer mwyaf i farw mewn unrhyw longddrylliad ar draethau Cymru. Bron yn union gan mlynedd yn ddiweddarach drylliwyd llong arall, yr Hindlea bron yn union yn yr un fan. Y tro hwn achubwyd y criw i gyd gan fad achub Moelfre.
Daeth bad achub Moelfre yn enwog dan Richard (Dic) Evans (1905 – 2001), a enillodd nifer o fedalau am ei wrhydri yn achub bywydau. Mae cerflun efydd o Dic Evans gan Sam Holland i'w weld ger cwt y bad achub yn y pentref.
Gerllaw Moelfre mae nifer o hynafiaethau diddorol, yn cynnwys siambr gladdu Lligwy a Din Lligwy, oedd yn drigfan pennaeth neu uchelwr brodorol yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Gerllaw mae Capel Lligwy o'r 12fed ganrif.
Yr Arwydd yw papur bro Benllech a gweddill cylch Mynydd Bodafon.
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Bodedern | Bodewryd | Bodffordd | Bryngwran | Brynrefail | Brynsiencyn | Caergeiliog | Caergybi | Carreglefn | Cemaes | Cerrigceinwen | Dwyran | Y Fali | Gaerwen | Gwalchmai | Heneglwys | Llanallgo | Llanbabo | Llanbedrgoch | Llandegfan | Llandyfrydog | Llanddaniel Fab | Llanddeusant | Llanddona | Llanddyfnan | Llaneilian | Llanfachreth | Llanfaelog | Llanfaethlu | Llanfairpwllgwyngyll | Llanfair-yn-neubwll | Llanfair-yng-Nghornwy | Llan-faes | Llanfechell | Llangadwaladr | Llangaffo | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llanrhuddlad | Llansadwrn | Llanynghenedl | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Penmynydd | Pentraeth | Pentre Berw | Penysarn | Pontrhydybont | Porthaethwy | Rhosneigr | Rhosybol | Rhydwyn | Trearddur | Trefor | Tregele |