Oddi ar Wicipedia
Etholaeth yn ne Cymru yw Aberafan, sy'n cynnwys tref ddiwydiannol Port Talbot. Poblogaeth ddosbarth gweithiol sydd ganddi'n bennaf, ac mae'r sedd wedi bod yn gadarnle i'r Blaid Lafur dros y blynyddoedd. Yn y gorffennol bu Ramsay MacDonald, prif weinidog cyntaf Llafur yn cynrychioli'r sedd (rhwng 1922 a 1929), a bu John Morris, a fu'n Ysgrifennydd Cymru ac yn Dwrnai Cyffredinol, yn ei chynrychioli rhwng 1959 a 2001. Hywel Francis yw aelod seneddol Aberafan; fe lwyddodd i gadw'r sedd i'r Blaid Lafur ar ôl ymddeoliad John Morris fel aelod seneddol yn 2001.
[golygu] Aelodau Senedol
- 1918 – 1922: John Edwards (Llafur)
- 1922 – 1929: Ramsay Macdonald (Llafur)
- 1929 – 1959: William George Cove (Llafur)
- 1959 – 2001: John Morris (Llafur)
- 2001 – presennol: Hywel Francis (Llafur)
[golygu] Etholiadau
[golygu] Canlyniadau Etholiad 2005
Ymgeisydd |
Plaid |
Pleidleisiau |
Canran |
Hywel Francis |
Llafur |
18,077 |
60.1 |
Claire Waller |
Y Democratiaid Rhyddfrydol |
4,114 |
13.7 |
Philip Evans |
Plaid Cymru |
3,545 |
11.8 |
Annunziata Rees-Mogg |
Ceidwadwyr |
3,064 |
10.2 |
Jim Wright |
Veritas |
768 |
2.6 |
Miranda La Vey |
Y Blaid Werdd Loegr a Chymru |
510 |
1.7 |
[golygu] Canlyniadau Etholiad 2001
Ymgeisydd |
Plaid |
Pleidleisiau |
Canran |
Hywel Francis |
Llafur |
19,063 |
63.1 |
Lisa Turnbull |
Plaid Cymru |
2,955 |
9.8 |
Chris Davies |
Democratiaid Rhyddfrydol |
2,933 |
9.7 |
Ali Miraj |
Ceidwadwyr |
2,296 |
7.6 |
Andrew Tutton |
Annibynnol |
1,960 |
6.5 |
Captain Beany |
Millennium Bean |
727 |
2.4 |
Martin Chapman |
Y Gynghrair Sosialaidd |
256 |
0.8 |
[golygu] Gweler Hefyd