Bethan Jenkins
Oddi ar Wicipedia
Bethan Jenkins (ganed 9 Rhagfyr, 1981, yn Aberdâr) yw Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru. Yn Gymraes 25 mlwydd oed o dras rhannol Wyddelig, hi yw'r aelod ieuangaf yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae hi'n weriniaethwraig o argyhoeddiad ac yn erbyn y cardiau adnabod arfaethedig.
Ar ddechrau Tachwedd 2007, cododd Bethan gwestiwn penderfyniad Undeb Rygbi Cymru i enwi'r dlws ar gyfer gemau rhyngwladol rhwng Cymru a De Affrica yn "Gwpan y Tywysog William". Dywedodd ei bod yn rheitiach enwi'r dlws yn "Gwpan Ray Gravell" er cof am y diweddar chwareuwr rygbi enwog a gwladgarwr twymgalon.
Ar ei blog mae hi'n disgrifio ei hun fel rhywun sy'n "weithredwr, yn canu'r fiola, caru'r ffilm Amelie, ac yn casau hysbysebion".