Mauretania Tingitana
Oddi ar Wicipedia
Yr oedd Mauretania Tingitana yn dalaith o'r Ymerodraeth Rufeinig yn rhan orllewinol Gogledd Affrica. Roedd yn cynnwys y diriogaeth sy'n awr yn rhan ogleddol Morocco, gan gynnwys hefyd Ceuta a Melilla.
Daeth y diriogaeth yn rhan o'r ymerodraeth pan orchmynodd yr ymerawdwr Caligula lofruddio'r brenin Ptolomeus yn y flwyddyn 40 OC. Rhannodd yr ymerawdwr Claudius dalaith Mauretania yn ddwy ran, Mauretania Caesariensis a Mauretania Tingitana, yn y flwyddyn 42, gan gymeryd Afon Muluya fel ffin rhyngddynt. Prifddinas Mauretania Tingitana oedd Tingis, (Tangier heddiw), ac yr oedd dwy ddinas bwysig arall, Volubilis a Rusadir (Melilla heddiw).
Tua 285, penderfynodd yr ymerawdwr Dioclecian roi'r gorau i feddiannu'r rhan o'r diriogaeth oedd i'r de o Lixus. Concrwyd yr ardal gan y Fandaliaid yn 429. Yn 533 llwyddodd y cadfridog Belisarius i adennill y diriogaeth i'r ymerawdwr Justinian.
Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC | |
---|---|
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia |