Noricum
Oddi ar Wicipedia
Roedd Noricum yn diriogaeth llwyth Celtaidd y Noriciaid, yn Awstria a rhan o dde'r Almaen. Yn ddiweddarach daeth yn dalaith Rufeinig. Roedd yn ffinio a Rhaetia yn y gorllewin, Pannonia yn y dwyrain a Dalmatia i'r de-ddwyrain. I'r gogledd yr oedd gweddillion yr hen deyrnas Geltaidd, oedd ar un adeg y ddwy ochr i Afon Donaw).
Dan yr ymerawdwr Augustus yr oedd Noricum yn stad yn perthyn i'r ymerawdwr yn hytrach na thalaith, ond yn nes ymlaen daeth yn dalaith ecwestraidd. Dan Marcus Aurelius bu rhyfeloedd yn erbyn y Marcomanni a chodwyd statws y dalaith, gyda'r rhaglaw yn awr o statws seneddol a chyda lleng yno'n barhaol, legio II Italica. Prifddinas y dalaith oedd Lauriacum (heddiw Lorch, Awstria).
Yn y drydedd a'r bedwaredd ganif bu ymosodiadau parhaus ar y dalaith gan wahanol lwythi Almaenaidd. Er hynny, yn y bumed ganrif, yr oedd Noricum yn un o'r taleithiau olaf i gael ei rheoli o'r Eidal, hyd pan ddiswyddwyd yr ymerawdwr olaf, Romulus Augustulus, yn 476.
Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC | |
---|---|
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia |