Cookie Policy Terms and Conditions Robert John Rowlands (Meuryn) - Wicipedia

Robert John Rowlands (Meuryn)

Oddi ar Wicipedia

Bardd, nofelydd, awdur plant a newyddiadurwr o Gymro oedd Robert John Rowlands (20 Mai 1880 - 1967), a oedd yn adnabyddus fel awdur dan ei enw barddol Meuryn. Roedd yn arloeswr ym myd llenyddiaeth plant Gymraeg.

Clawr Y Barcud Olaf, 1944, gyda darlun trawiadol gan Moss Williams.
Clawr Y Barcud Olaf, 1944, gyda darlun trawiadol gan Moss Williams.

Ganed R. J. Rowlands yn Abergwyngregin, ger Bangor, yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw) ar 20 Mai 1880 yn fab i William a Mary Rowlands. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Genedlaethol Aber. Dechreuodd ar ei yrfa fel newyddiadurwr yn 1901 dan Isaac Foulkes ar staff Y Cymro (yn Lerpwl y pryd hynny) cyn dychwelyd i Gymru a chael swydd golygydd ar Yr Herald Cymraeg yng Nghaernarfon yn 1921. Arosodd yno am 33 o flynyddoedd hyd ei ymddeol yn 1954.

Dan yr enw Meuryn daeth i sylw Cymry llengar fel nofelydd o 1902 ymlaen. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1921 gyda'i awdl 'Min y Môr'. Cyhoeddodd nifer o lyfrau i blant hŷn a chyfres o nofelau dirgelwch poblogaidd. Fel beirniad ar ymrysonau barddol y BBC daeth yn ffigwr cyfarwydd yn y diwylliant Cymraeg; daw'r gair 'meurynnu', sef beirniadu a barnu cerddi mewn ymryson, o'i enw barddol a chyfeirir at y beirniad ei hun fel 'y meuryn' yn ogystal.

Fe'i cofir yn bennaf am ei lyfrau plant a'i nofelau dirgelwch. Gwelir tair thema amlwg yn ei waith, sef antur, natur a dirgelwch. Lleolir rhai o'i lyfrau gorau yng nghefn gwlad Cymru a rhydd ei nofelau dirgelwch a ditectif ddarlun difyr o gymdeithas y Gogledd Cymru wledig ganol yr 20fed ganrif. Roedd wrth ei fod ym myd natur ac yn arbennig bryniau a chymoedd y Carneddau yn Eryri. Yn ei deyrnged iddo meddai ei gyfaill a chyd-newyddiadurwr E. Morgan Humphreys,

Ymhyfrydai ym myd natur, ac yr oedd yn adnabod pob aderyn a oedd yn ehedeg yn awyr bro ei febyd, Aber ger Bangor. Yr oedd wedi darllen llawer hefyd am bob math o greaduriaid estronol - nid rhyfedd i Feuryn ddod yn adnabyddus fel awdur cyfrolau o storïau am wylltfilod yn ddiweddarach.[1]

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Dyrysu Dau Fywyd (Caernarfon, 1902). Nofela.
  • Y Trysor Pennaf (Caernarfon, 1903)
  • Swynion Serch (Lerpwl, 1906). Cerddi.
  • Ar Lwybrau Antur (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1926)
  • Anturiaethau (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1944)
  • Y Barcud Olaf (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1944)
  • Dirgelwch Hendre Galed (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1944)
  • Yn Nanned Peryglon (Gwasg Aberystwyth, 1945)
  • Chwedlau'r Meini (Gwasg Gee, Dinbych, 1946)
  • Y Gelli Bant (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1946)
  • O Berygl i Berygl (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1946)
  • Y Rhaff a'r Neidr (Gwasg Gwenllyn, Caernarfon, 1947)
  • Dirgelwch Plas y Coed (Gwasg Aberystwyth, Aberystwyth, 1948)
  • Ellyllon y Coed (Gwasg Aberystwyth, Aberystwyth, 1949)
  • Ar Goll (Gwasg Aberystwyth, Aberystwyth, 1957)

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Yr Herald Gymraeg, 29 Mawrth, 1954. Dyfynnir yn Dewiniaid Difyr.
  • Gwynn Jones, 'R. J. Rowlands (Meuryn)' yn, Mairwen a Gwynn Jones, Dewiniaid Difyr (Gwasg Gomer, 1983)
Static Wikipedia 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu