Cookie Policy Terms and Conditions Tom Pryce - Wicipedia

Tom Pryce

Oddi ar Wicipedia

Tom Pryce
Pryce yn Brands Hatch yn 1974
Cenedligrwydd FIA Super Licence  Y Deyrnas Unedig Prydain
Gyrfa Pencampwriaeth y Byd Fformiwla Un
Blynyddoedd yn cystadlu 1974 – 1977
Timoedd Token, Shadow
Rasys 42
Pencampwriaethau 0
Buddugoliaethau 0
Podiwm 2
Pwyntiau 19
Dechrau o'r blaen 1
Lapiau cyflymaf 0
Ras gyntaf Grand Prix Gwlad Belg 1974
Ras olaf Grand Prix De Affrica 1977

Gyrrwr Fformiwla Un o Gymru oedd Thomas Maldwyn Pryce (11 Mehefin, 19495 Mawrth, 1977). Enillodd Pryce y "Brands Hatch Race of Champions" yn 1975 ac ef yw'r unig Gymro i arwain mewn Grand Prix Fformiwla Un: dwy lap o Grand Prix Prydain 1975.

Dechreuodd Pryce ei yrfa Fformiwla 1 gyda'r tîm bychan Token, gan ddechrau un ras gyda nhw yn Grand Prix Gwlad Belg 1974. Ar ôl perfformiad da mewn ras Fformiwla Tri yn Monaco yn yr un flwyddyn, ymunodd Pryce â thîm Shadow ac enillodd ei bwyntiau cyntaf ar ôl pedair ras. Ei ganlyniadau gorau oedd trydydd safle mewn dwy ras. Ystyrid Pryce yn yrrwr talentog iawn ar drac gwlyb gan ei dîm. Yn ystod sesiwn ymarfer ar gyfer Grand Prix De Affrica 1977, a hi'n bwrw glaw yn drwm, Pryce oedd y cyflymaf o bawb, gan gynnwys dau bencampwr byd, sef Niki Lauda a James Hunt. Yn ystod ei drydydd tymor llawn gyda'r tîm Shadow, lladdwyd Pryce yn ystod Grand Prix De Affrica 1977, wrth iddo daro swyddog a oedd yn croesi'r trac i ddelio gyda phroblem car arall.

Yn 2007, cyhoeddodd y cyngor lleol eu bod yn bwriadu codi cofeb iddo yn Rhuthun, lle cafodd ei eni, ar achlysur 30ain penblwydd ei farw.

Taflen Cynnwys

[golygu] Bywyd personol

Ganwyd Tom Pryce yn Rhuthun, Sir Ddinbych yn fab i Jack a Gwyneth Pryce. Bu Jack yn gweithio i'r Awyrlu Brenhinol, cyn ymuno â'r heddlu. Roedd Gwyneth yn nyrs ardal.[1] Bu farw ei frawd David, pan oedd Pryce yn dair blwydd oed, gan adael Tom yn unig blentyn am y rhan fwyaf o'i blentyndod, heblaw am gyfnod pan fu ei rieni'n magu plentyn maeth o'r enw Sandra.[2] Symudodd y teulu i Nantglyn am rai blynyddoedd.

Dechreuodd Pryce ymddiddori mewn ceir pan fu'n gyrru fan pobydd tra ond yn ddeg oed, cyn rhoi gwybod i'w rieni fod arno eisiau bod yn yrrwr rasio. Yn ystod cyfweliad gyda'r newyddiadurwr Alan Henry yn 1975, dywedodd Pryce ei fod ar un adeg wedi bod eisiau bod yn beilot, ond credai nad oedd yn ddigon deallus.[2] Fel y rhan fwyaf o yrrwyr Fformiwla Un, bu gan Pryce arwr rasio pan yn blentyn. Ei arwr ef oedd yr Albanwr, Jim Clark.[1] Cofiai mam Pryce yn ddiweddarach iddo fod yn drist iawn pan laddwyd Clark yn Hockenheimring, Yr Almaen yng ngwanwyn 1968. Dywedodd ei dad bod Pryce hefyd yn drist pan fu farw Jochen Rindt.[1] Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 mlwydd oed, mynnodd ei fam ei fod yn cymryd prentisiaeth fel peiriannydd tractor yng Ngholeg Technegol Llandrillo, fel bod gan Pryce grefft pe byddai ei yrfa rasio yn methu.[2]

Cwrddodd Pryce â merch o'r enw Fenella mewn disgo yn Otford yn 1973. Fe briododd y ddau yn 1975.[3] Wedi marwolaeth Pryce, bu Fenella yn cadw siop hen bethau yn Fulham gyda Janet Brise, gweddw Tony Brise, gyrrwr arall Fformiwla Un.[4]

[golygu] Patrwm Helmed

Roedd y patrwm ar helmed Tom Pryce yn syml iawn o'i gymharu â phatrymau helmed gyrrwyr diweddarach. Dechreuodd Pryce gyda helmed oedd yn wyn i gyd. Yn ystod 1970, pan oedd Pryce yn gyrru yn Castle Coombe, gofynnodd ei dad iddo wneud yr helmed i fod yn fwy trawiadol, iddo gael ei adnabod yn haws wrth rasio. Ychwanegodd Pryce bum stribyn du uwchben y miswrn.[5] Yr unig newid arall i'r patrwm oedd rhoi baner Cymru ar ochr yr helmed yn 1974. Yr unig noddwr i roi ei enw ar yr helmed oedd cwmni teiars Goodyear.

[golygu] Gyrfa

[golygu] Cyn Fformiwla Un

[golygu] 1969–1971: Blynyddoedd cynnar

Dechreuodd Pryce ei yrfa yn nghylchffordd Mallory Park, Swydd Gaerlŷr, pan oedd yn 20 mlwydd oed. Cafodd Pryce ei feithrin gan Trevor Taylor, cyn yrrwr Tîm Lotus. Aeth Pryce ymlaen i serennu yng nghyfres Fformiwla 5000. Wedyn bu'n rasio ym Mhencampwriaeth Crwsader y Daily Express, cyfres oedd yn cael ei threfnu gan Motor Racing Stables, gan ddefnyddio ceir Lotus 52 Fformiwla Ford. Cynhelid y rasys yn nghylchffyrdd Brands Hatch a Silverstone. Roedd pris mynediad i ras yn £35, a bu'n rhaid i Price werthu ei gar Mini a chael cefnogaeth ei rieni i godi'r arian.[6]

Gwobr ennill y bencampwriaeth oedd car Lola T200 Fformiwla Ford gwerth £1,500. Aeth y gyfres i'r rownd derfynol yn Silverstone, a gynhelid y diwrnod cyn ras y Tlws Rhyngwladol Fformiwla Un yn 1970.[6] Dechreuodd Pryce y ras yn y trydydd safle, mewn tywydd gwlyb. Dywedodd Jack Pryce fod ei fab yn edrych ymlaen at yrru dan amodau gwlyb. Arweiniwyd y ras gan yrrwr o'r enw Chris Smith am ychydig, ond dechreuodd fwrw glaw'n drwm a llwyddodd Pryce i ddal Smith a mynd heibio iddo. Aeth Pryce ymlaen i ennill y ras yn hawdd, ac felly'r bencampwriaeth hefyd. Cyflwynwyd y car gwobr iddo gan Syr Max Aitken.[7]

[golygu] 1972-1973: Fformiwlâu is

Aeth Pryce â'i gar newydd i Brands Hatch, ac yno cafodd ganiatâd i gadw'r car mewn hen stabl ar waelod y padog.[7] Gadawodd Pryce ei yrfa ffermio a symudodd i westy yn West Kingsdown, ger cylchffordd Brands Hatch.[8] Roedd Pryce yn dod fwyfwy i'r amlwg yn ystod 1971, wrth iddo symud i gyfres newydd o'r enw Fformiwla F100, cyfres a enillodd Pryce yn rhwydd. Symudodd ymlaen i Fformiwla SuperVee gan yrru car Royale RP9, y car gorau ar y pryd ar gyfer SuperVee,[9] a chyn hir dechreuodd ei ras gyntaf yn Fformiwla Tri ar gyfer yr un cynhyrchwr ceir yn Brands Hatch.

Yn y ras yn Brands Hatch, gyrrodd Pryce Royale RP11, car nad oedd yn cael ei ystyried y gorau, ond fe enillodd er ei fod yn cystadlu yn erbyn gyrrwyr mwy profiadol fel James Hunt, Jochen Mass a Roger Williamson.[10] Gan gymaint oedd mantais Pryce ar ddiwedd y ras, fe brotestiodd llawer o'r cystadleuwyr eraill bod Pryce wedi rasio'r car o dan y pwysau cywir. Yr oedd car Pryce yn ysgafnach na'r isafswm pwysau, ond roedd pont bwyso'r trac heb gael ei graddnodi, felly roedd yr holl geir yn ysgafnach na'r isafswm pwysau a dyfarnwyd nad oedd Pryce wedi cael unrhyw fantais.[11] Yn y ddwy ras nesaf, yn Oulton Park a Zandvoort, methodd car Pryce pan oedd ymhlith ceir blaen y maes. Yn ystod sesiwn ymarfer ar gyfer y ras ar strydoedd Monaco, methodd y car eto pan ddaeth gwifryn yn llac, ac fe arhosodd ar gornel Casino Square. Wrth i Pryce geisio trwsio'r car, collodd Peter Lamplough reolaeth ar yr un gornel, a thrawodd y Royale RP11. Taflwyd Pryce trwy ffenest siop, a thorrodd ei goes.[12] Roedd Pryce yn cystadlu eto bythefnos ar ôl y digwyddiad.

Yn ogystal â Fformiwla Tri, cystadlodd Pryce hefyd yn Fformiwla SuperVee, gan ennill y bencampwriaeth o bell ffordd ar ôl ennill bron pob ras iddo gystadlu ynddi. Gyrrodd yng nghyfres Fformiwla Atlantig gyda Royale hefyd, gan gymeryd y safle cyntaf ar y grid dechrau yn nhair ras olaf y tymor, ac ennill y rownd derfynol yn Brands Hatch.[13]

Parhaodd i gystadlu yn Fformiwla Atlantig yn ystod 1973, ac enillodd dair ras.[14] Fe ddechreuodd Royale wneud cynlluniau ar gyfer cystadlu yng nghyfres Fformiwla Dau, gymaint oedd talent Pryce.[14] Y bwriad oedd i'r ymdrech gael ei ariannu gan yrrwr o Liechtenstein, Manfred Schurti. Yn anffodus dim ond un o'r ddau gar F2 a adeiladwyd cyn i'r project cael ei ganslo ac i Bob King, pennaeth Royale, adael y cwmni.

Yn dilyn gwahoddiad gan Ron Dennis i brofi un o geir ei dîm, sef tîm Rondel, dechreuodd Pryce gystadlu yn Fformiwla Dau gyda Rondel. Daeth ei ganlyniad orau yn yr Norisring, ble roedd yn arwain y ras nes i fethiant brêc ei orfodi i addef y fuddugoliaeth i yrrwr arall Rondel, Tim Schenken.[15] Ar ddiwedd 1973, enillodd Pryce wobr Grovewood am ei ymdrechion yn ystod y flwyddyn. Yn ôl Jack Pryce, nid oedd ar ei fab eisiau ennill y wobr, gan y credai fod y wobr yn rhoi melltith ar yrfa gyrrwr.[16]

[golygu] Fformiwla Un

[golygu] 1974: Token

Yn 25 mlwydd oed, symudodd Pryce i Fformiwla Un, y categori uchaf o rasio cylchffyrdd yn ôl rheolau'r Fédération Internationale de l'Automobile (FIA), sef corff llywodraethu rasio ceir yn fyd-eang, gan ymuno â thîm newydd Token Racing. Cafodd y tîm ei greu gan Tony Vlassopulos a Ken Grob ar ôl i'r tîm gwreiddiol Token cael ei gau i lawr yn 1973 oherwydd diffyg cefnogaeth ariannol, oedd hefyd wedi gorfodi Rondel Racing i gau. Cafodd Pryce y lle oherwydd ei fod yn dod â chefnogaeth oddi wrth Titan Properties ganddo.[17] Y Tlws Rhyngwladol BRDC yn Silverstone oedd ei ras gyntaf, ras nad oedd yn rhan o bencampwriaeth y byd. Gan nad oedd bocs aer na chlawr injan ar y car, ac oherwydd diffyg profiad yn y car, Pryce oedd y gyrrwr arafaf o'r 16 yn y sesiwn rhagbrofol; 26 eiliad yn arafach na'r car cyflymaf, a yrrid gan James Hunt.[18] Oherwydd hyn, bu raid iddo ddechrau'r ras o'r cefn, a 15 lap i mewn i'r ras, gorfododd problem gyda'r cysylltedd gêr iddo roi'r gorau i'r ras. Daeth ei ras gyntaf ym mhencampwriaeth y byd yng Ngwlad Belg, lle dechreuodd yn yr 20fed safle ymhlith 31 gyrrwr yn sgil cofnodi amser gorau nad oedd ond tair eiliad tu ôl i'r gyrrwr a'r amser gorau oll yn y sesiwn rhagbrofol. Unwaith eto, fe fethodd Pryce orffen y ras; ar ôl 66 lap, aeth i wrthdrawiad â Tyrell Jody Scheckter.

Ni chafodd Pryce ymuno yn y ras nesaf, ar strydoedd Monaco, gan ei fod yn cael ei ystyried yn rhy amhrofiadol.[18] Yn hytrach na rasio yn y Grand Prix, rasiodd yn y ras gefnogaeth Fformiwla Tri ar gyfer tîm Ippokampos, gan ennill o 20.8 eiliad.[19]

[golygu] 1974-1977: Shadow

[golygu] 1974

Yn dilyn ei berfformiad nodedig ym Monaco, ac amser byr yn Fformiwla Dau,[20] ymunodd Pryce â thîm Shadow.[21] Ei ras gyntaf gyda'r tîm oedd yn Zandvoort, ond daeth ei ras i ben yn sydyn ar ôl i gar Pryce fynd i wrthdrawiad â char Hans Joachim Stuck ar y lap gyntaf. Yn Ffrainc, roedd Pryce yn bedwerydd ar y grid, ond eto, daeth gwrthdrawiad cynnar gyda James Hunt a'i ras i ben. Yn ddiweddarach yn y tymor enillodd Pryce 100 potel o champagne am orffen yn gyflymaf yn y sesiwn ymarfer rhydd ar gyfer Grand Prix Prydain. Aeth ymlaen i gymryd safle ar bedwaredd reng y grid.

Sgoriodd Pryce ei bwynt cyntaf ym mhencampwriaeth y byd yn yr Almaen, gan orffen yn chweched ar ôl dechrau yn yr 11eg safle. Ar ôl dechrau yn yr 16eg safle ar gyfer Grand Prix Awstria, fe gollodd Pryce reolaeth ar ei gar ac roedd allan o'r ras. Er mai yn yr 22ain safle y dechreuodd Pryce yn yr Eidal, gorffennodd yn 10fed. Fe orffennodd y tymor yn wael gyda phroblem injan yng Nghanada a char araf yn yr Unol Daleithiau. Ar ddiwedd ei dymor cyntaf, roedd Pryce yn 18fed yn y Bencampwriaeth Gyrrwyr gyda'r un nifer o bwyntiau â Graham Hill a Vittorio Brambillia.

[golygu] 1975
Tom Pryce yn cystadlu yn Grand Prix yr Unol Daleithiau 1975
Tom Pryce yn cystadlu yn Grand Prix yr Unol Daleithiau 1975

Ar ddechrau tymor 1975, roedd dyfodol Pryce yn ansicr. Roedd sôn ei fod yn mynd i symud i Lotus, tîm oedd yn cael ei reoli gan Colin Chapman, oedd wedi bod yn cadw golwg ar ddatblygiad Pryce yn ystod y ddau dymor cynt. Roedd Lotus yn brin o arian, ac roedd rhai sibrydion y byddai Shadow a Lotus yn cyfnewid Pryce am Ronnie Peterson, gyrrwr o Sweden. Roedd y ddêl yn rhoi manteision i'r ddau dîm. Roedd Pryce yn cael ei ystyried fel gyrrwr o'r un dalent â Peterson, ond byddai yn costio llai i Lotus, ac roedd Peterson yn fwy tebygol o ddenu noddwyr i Shadow.[22] Yn y diwedd, arhosodd y ddau lle'r oeddynt, ond yn ôl rheolwr tîm Shadow, Alan Reed, daeth y ddêl yn agos iawn i gael ei chwblhau.[17]

Roedd gyrrwr arall Shadow, Jean-Pierre Jarier, yn gyflymach ar ddechrau tymor 1975, gan fod Jarier yn gyrru'r car newydd Shadow, y DN5, tra'r oedd Pryce yn gyrru'r hen DN3.[23] Roedd rhaid i Pryce aros tan y drydedd rownd yn Ne Affrica cyn cael DN5.[24] Y bedwaredd ras o'r tymor i Shadow oedd y Race of Champions yn Brands Hatch, ras nad oedd yn cyfrif ar gyfer y bencampwriaeth. Dechreuodd Pryce o'r safle cyntaf, ac yn dilyn dechrau gwael, pasiodd Peterson a Jacky Ickx ac yna caeodd fwlch o wyth eiliad rhyngddo a Jody Scheckter. Methodd injan Scheckter pan oedd yn ymgiprys gyda Pryce[25] ac fe aeth Pryce ymlaen i ennill y ras, y Cymro cyntaf i ennill ras Fformiwla Un.[26] Dechreuodd Pryce o'r rheng flaen ar gyfer y Grand Prix ym Monaco a Phrydain. Cyrhaeddodd y podiwm mewn ras pencampwriaeth am y tro cyntaf yn Awstria, ras a gynhaliwyd mewn amodau gwlyb. Gorffennodd yn y pwyntiau bedair gwaith eto yn ystod y tymor, gan gynnwys pedwerydd yn yr Almaen, serch bod tannwydd yn gollwng i dalwrn y DN5 yn ystod lapiau olaf y Grand Prix, gan losgi croen Pryce.[27] Derbyniodd Pryce wobr Prix Rouge et Blanc Jo Siddert am ei berfformiad yn y ras yma.[28]

[golygu] 1976

Cyn dechrau tymor 1976, cystadlodd Pryce a David Richards, a aeth ymlaen i sefydlu cwmni peirianneg rasio moduron Prodrive, yn Nhaith Epynt, cystadleuaeth ralïo oedd yn denu sawl enw mawr. Yn anffodus, trawodd Lancia Stratos Pryce bont dim ond deng milltir ar ôl dechrau'r cymal cyntaf, ond gallodd gystadlu yn nghymalau'r prynhawn ar ôl ail-adeiladu'r car.[29]

Cymerodd Pryce le ar y podiwm eto yn rownd cyntaf y tymor, Grand Prix Brasil, wedi i Jarier, a oedd wedi aros gyda tîm Shadow, yn bartner i Pryce, am dymor arall, golli rheolaeth ar ei gar ar ôl gyrru dros bwll olew. Parhaodd y ddau Shadow i berfformio'n dda yn ystod y ddwy ras nesaf, yn Kyalami a Long Beach. Daeth newidiadau i'r rheolau, yn gorfodi timau i ostwng y bocs-aer ar eu ceir a symyd yr adain gefn ymlaen, ac i ddefnyddio teiars o fath newydd. Wedi'r newidiadau hyn, collodd y Shadow DN5B ei fantais ar y ceir eraill, er i Pryce sgorio pwyntiau yn Grand Prix Prydain.[30] Nid oedd car newydd Shadow, y DN8, yn barod hyd y ddeuddegfed rownd o'r tymor yn Zandvoort, lle dechreuodd Pryce yn drydydd a gorffen un lle lawr yn bedwerydd. Hon fyddai y tro olaf i Pryce orffen yn y pwyntiau. Gorffennodd Pryce ei dymor llawn olaf yn y 12fed safle ym Mhencampwriaeth y Byd gyda 10 pwynt, 59 pwynt tu ôl i'r pencampwr, James Hunt.

[golygu] 1977

Gadawodd Jarier y tîm Shadow cyn dechrau tymor 1977, gan ymuno â thîm ATS. Fe gafodd Renzo Zorzi y sedd wag, gan ei fod yn dod â noddwyr i helpu'r sefyllfa ariannol. Mynegodd aelod o dîm rheoli Shadow, Jackie Oliver, y farn mai Zorzi oedd y gyrrwr gwaethaf a gafodd tîm Shadow erioed.[31] Dechreuodd Pryce rownd gyntaf y flwyddyn yn y nawfed safle, ac fe gadwodd tua'r blaen hyd nes cafodd broblem gyda'r mecanwaith gêr. Yn yr ail rownd, roedd yn yr ail safle pan orfododd methiant injan iddo roi'r gorau i'r ras.

[golygu] Marwolaeth

Dechreuodd Tom Pryce ei benwythnos olaf, yn ras Grand Prix De Affrica 1977 yn Kyalami, trwy gofnodi'r amser cyflymaf yn sesiwn ymarfer Dydd Mercher, mewn tywydd gwlyb. 1 munud 31.57 eiliad oedd amser Pryce, gyda'r amser agosaf gan Niki Lauda, dros eiliad yn arafach. Cyn y sesiwn ymarfer i bennu'r safleoedd ar y grid dechrau, fe sychodd y trac ac felly yn y pymthegfed safle yr oedd Pryce, bron dau eiliad tu ôl i James Hunt yn y safle cyntaf.[32]

Dechreuodd Pryce y Grand Prix yn wael, ac erbyn diwedd y lap cyntaf roedd yn rhedeg yn olaf. Symudodd ymlaen trwy'r pac yn ystod y lapiau nesaf, gan basio Brett Lunger a Zorzi ar yr ail lap ac Alex Ribeiro a Boy Hayje ar lap tri. Erbyn lap 18 roedd Pryce wedi dringo o'r 22ain safle i'r 13eg.[33]

Y darn ar ôl The Kink yw'r man lle bu Pryce a Jansen Van Vuuren mewn gwrthdrawiad a Crowthorne corner oedd y man lle tarodd car Pryce gar Jacques Laffite.
Y darn ar ôl The Kink yw'r man lle bu Pryce a Jansen Van Vuuren mewn gwrthdrawiad a Crowthorne corner oedd y man lle tarodd car Pryce gar Jacques Laffite.

Ar lap 21, gadawodd Zorzi y trac ar ochr chwith y 'main straight', yn syth ar ôl crib bryn a phont ar draws y trac. Roedd Zorzi yn cael problemau gyda'r system tanwydd, gyda thanwydd yn cael ei bwmpio yn syth ar yr injan, ac aeth y car ar dân. Ni allodd Zorzi adael y car ar unwaith, gan ei fod yn cael problemau yn datgysylltu'r bibell ocsigen oddi wrth ei helmed.[34]

Wedi gweld y sefyllfa, croesodd dau swyddog trac oedd ar ochr arall y ffordd. Y swyddog cyntaf i groesi’r trac oedd dyn 25-mlwydd oed o'r enw William (Bill). Yr ail oedd Frederick Jansen Van Vuuren, 19 mlwydd oed, oedd yn cario diffoddwr tân.[34] Yn ôl George Witt, y prif swyddog lôn gwasanaethau ar gyfer y ras, polisi'r cylchffordd pan fyddai tân oedd fod rhaid i ddau swyddog fynd i ddelio ag ef, a dau arall yn rhoi cefnogaeth iddynt os nad oedd dau yn ddigon i reoli'r tân. Hefyd yn ôl Witt, nid oedd 'Bill' na Van Vuuren wedi cael caniatâd i groesi'r trac.[35] Cyrhaeddodd 'Bill' yr ochr arall yn ddiogel, ond roedd Van Vuuren yn dal i groesi pan ddaeth pedwar car, Hans-Joachim Stuck, Pryce, Jacques Laffite a Gunnar Nilsson, allan o gornel diwethaf y trac ac i mewn i'r "main straight".

Gwelodd Stuck Van Vuuren a symud i'r dde er mwyn osgoi'r ddau swyddog. Roedd Pryce yn syth tu ôl i gar Stuck, ac ni allai weld y swyddog yn ddigon buan i'w osgoi. Roedd Pryce yn teithio tua 170 milltir yr awr pan drawodd Van Vuuren, gan ladd y swyddog ar unwaith.[36] Taflwyd corff Van Vuuren i'r awyr, a disgynnodd yn ôl o flaen car Zorzi. Trawodd y diffoddwr yr oedd Van Vuuren yn ei gario ben Pryce, cyn taro cylch-rholiad y Shadow, a hedfan dros yr eisteddle gyferbyn. Glaniodd yn y maes parcio tu ôl i'r eisteddle, gan daro car oedd wedi ei barcio yno.[37]

Roedd y gwrthdrawiad gyda'r diffoddwr wedi rhwygo helmed Pryce oddi ar ei ben, gan dynnu'r strapen rhan o'r ffordd drwy ben Pryce. Credir ei fod wedi marw ar unwaith. Parhaodd Shadow DN8 Pryce yn ei gyfer ar hyd y "main straight" a thuag at y gornel cyntaf, Crowthorne. Gadawodd y car y trac, a llithrodd yn erbyn y gwahanfur metel cyn taro mynedfa ar gyfer cerbydau argyfwng a throi yn ôl ar y trac. Yna trawodd Ligier Jacques Laffite, gyda digon o nerth i orfodi Laffite i stopio.

Gan gymaint yr anafiadau i Van Vuuren, yr unig ffordd i ddarganfod pwy ydoedd oedd galw pob swyddog oedd ar ddyletswydd ynghyd i ganfod yr un oedd yn eisiau.[38]

Enillwyd y ras gan Niki Lauda, ei fuddugoliaeth gyntaf ers y bu bron iddo farw yn ystod Grand Prix yr Almaen 1976. Dywedodd Lauda mai hon oedd buddugoliaeth orau ei yrfa, ond wedi cael clywed am farwolaeth Pryce dywedodd nad oedd dim llawenydd ar ôl.[39]

[golygu] Wedi ei farwolaeth

Claddwyd Pryce yn Eglwys St. Bartholomew yn Otford, ger Sevenoaks, Caint, yn yr un eglwys ag y priododd Fenella ynddi ddwy flwynedd ynghynt.[40]

Roedd perfformiadau Pryce yn ei gar Fformiwla Un wedi ennill llawer o barch iddo. Enwodd y newyddiadurwr David Tremayne ei fab ar ôl Pryce.[41] Sefydlwyd gwobr yn enw Pryce, sef "Tlws Tom Pryce", sydd yn gwobrwyo'r gyrrwr o Gymru sydd wedi dangos y potensial mwyaf yn ystod y flwyddyn cynt.[42] Mae cylchdro Ynys Môn wedi rhoi'r enw "Tom Pryce Straight" ar ran o'r trac.[43]

Yn Ionawr 2007, datganodd Cyngor Tref Rhuthun eu bod yn ystyried codi cerflun o Tom Pryce i nodi 30 mlwyddiant ei farw.[44] Dywedodd ffrind bore oes iddo, Cledwyn Ashford:

Y peth gora weles i oedd fo'n ennill Ras y Pencampwyr yn Brands Hatch. Roeddwn i yno, yn y pit efo'i dad. Diwrnod bendigedig. Daeth o allan o'r car fel tasa fo'n unrhyw ddiwrnod arall, doedd na ddim ffws efo fo.

Yn ei farn ef:

Petai wedi cael byw fe fyddai'n bencampwr byd. Does dim dwywaith.[45]

[golygu] Canlyniadiau llawn gyrfa Pencampwriaeth y Byd Fformiwla Un

(allwedd) (Dechreuodd o'r safle cyntaf yn y rasys mewn print trwm)

Blwyddyn Ymgeisydd Siasi Injan 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 Pencamp. Pwyntiau
1974 Token Racing Token RJ02 Cosworth V8 ARI
BRA
GDA
ESP
BEL
HGO
MON
SWE
18fed 1
UOP Shadow Racing Team Shadow DN3 NED
HGO
FFR
HGO
PRY
8
ALM
6
AWS
HGO
EID
10
CAN
HGO
UDA
GHD
1975 UOP Shadow Racing Team Shadow DN3 Cosworth V8 ARI
12
BRA
HGO
10fed 8
Shadow DN5 GDA
9
ESP
HGO
MON
HGO
BEL
6
SWE
HGO
NED
6
FFR
HGO
PRY
HGO
ALM
4
AWS
3
EID
6
UDA
GHD
1976 Shadow Racing Team Shadow DN5B Cosworth V8 BRA
3
GDA
7
UDAG
HGO
ESP
8
BEL
10
MON
7
SWE
9
FFR
8
PRY
4
ALM
8
AWS
HGO
12fed 10
Shadow DN8 NED
4
EID
8
CAN
11
UDA
HGO
SIA
HGO
1977 Shadow Racing Team Shadow DN8 Cosworth V8 ARI
GHD
GDA
HGO
UDAG
ESP
MON
BEL
SWE
FFR
PRY
ALM
AWS
NED
EID
UDA
CAN
SIA
- 0
Shadow DN5B BRA
HGO

[golygu] Ffynonellau

[golygu] Llyfrau

  • Gill, Barrie (ed.) (1976). The World Championship 1975 - John Player Motorsport yearbook 1976 (yn Saesneg). Queen Anne Press Ltd.. ISBN 0-362-00254-1

  • Tremayne, David (1991). Racers Apart: Memories of motorsport heroes (yn Saesneg). Motor Racing Publications Ltd, 293. ISBN 0947981586

  • Tremayne, David (Awst 2006). The Lost Generation (yn Saesneg). Haynes Publishing. ISBN 1-84425-205-1

[golygu] Troednodion

  1. 1.0 1.1 1.2 Tremayne. Lost Gen., t. 27
  2. 2.0 2.1 2.2 Tremayne. Lost Gen., t. 28
  3. Tremayne. Lost Gen., t. 120
  4. Tremayne. Lost Gen., t. 257
  5. Tremayne. Lost Gen., t. 34
  6. 6.0 6.1 Tremayne. Lost Gen., t. 29
  7. 7.0 7.1 Tremayne. Lost Gen., t. 30
  8. Tremayne. Lost Gen., t. 31
  9. Tremayne. Lost Gen., t. 35
  10. Tremayne. Lost Gen., t. 56
  11. Tremayne. Lost Gen., t. 60
  12. Tremayne. Lost Gen., t. 61
  13. Tremayne. Lost Gen., t. 62
  14. 14.0 14.1 Tremayne. Lost Gen., t. 70
  15.  GP Encyclopedia > Drivers > Tom Pryce. GrandPrix.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-02-20. Adalwyd ar 2006-09-11.
  16. Tremayne. Lost Gen., t. 72
  17. 17.0 17.1 Tremayne. Lost Gen., t. 127–129
  18. 18.0 18.1  Token Profile. F1Rejects.com (2003-09-15). Adalwyd ar 2006-09-26.
  19.  1974 Monaco F3 Support Race results. Formula2.net (2003-08-04). Adalwyd ar 2007-03-15.
  20. Tremayne. Lost Gen., t. 135–136
  21.  Tom Pryce Profile at GPRacing.net. GPRacing.net. Adalwyd ar 2006-03-14.
  22. Tremayne. Lost Gen., t. 150
  23. Tremayne. Lost Gen., t. 151
  24. Tremayne. Lost Gen., t. 153
  25. Gill (ed.). 1976 Motorsport yearbook, t.96–97
  26. Tremayne. Lost Gen., t. 158
  27. Gill (ed.). 1976 Motorsport yearbook, t.73–75
  28. Tremayne. Lost Gen., t. 189
  29. Tremayne. Lost Gen., t. 214–218
  30. Tremayne. Lost Gen., t. 218
  31. Tremayne. Lost Gen., t. 252
  32. Tremayne. Lost Gen., t. 231–232
  33. Tremayne. Lost Gen., t. 232–233
  34. 34.0 34.1 Tremayne. Lost Gen., t. 232–233 Defnyddid peipiau ocsigen i sicrhau fod gyrrwyr yn medru anadlu pe methent adael car oedd wedi mynd ar dân.
  35. Tremayne. Lost Gen., t. 239
  36.  Tom Pryce. Oriel yr Enwogion. BBC.
  37. Tremayne. Lost Gen., t. 235
  38.  Historic Racing > Tom Pryce. HistoricRacing.com. Adalwyd ar 2006-11-23.
  39. Tremayne. Lost Gen., t. 239
  40. (Saesneg) Find a Grave > Tom Pryce. FindaGrave.com (2006-01-26). Adalwyd ar 2006-11-21.
  41. (Saesneg) The Lost Generation" book review > Tom Pryce. CarKeys.co.uk (2006-10-23). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Ionawr. Adalwyd ar 6 Tachwedd, 2008.
  42. Tremayne. Lost Gen., t. 255
  43. (Saesneg) Angelsey Circuit Details. Angelsey Circuit. Adalwyd ar 17 Chwefror, 2008.
  44. (Saesneg) Memorial for racing driver Pryce. BBC News (2007-01-17). Adalwyd ar 22 Ionawr, 2007.
  45.  Atgofion am Tom Pryce. BBC Cymru (2007-08-04). Adalwyd ar 2008-02-04.

Ceir pob canlyniad ras a phencampwriaeth Fformiwla Un oddi wrth y safle swyddogol:

Static Wikipedia 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu