Y Berwyn
Oddi ar Wicipedia
Cadwyn hir o fryniau sy'n rhedeg rhwng Bwlch y Groes, ger Aran Benllyn, i gyffiniau Corwen a Llangollen yw'r Berwyn. Mae'n ffurfio ffin naturiol rhwng Edeirnion, neu Penllyn (dwyrain yr hen Sir Feirionnydd) a Sir Drefaldwyn. Ei bwynt uchaf yw Moel Sych (2,713').
Taflen Cynnwys |
[golygu] Geirdarddiad
Mae'n bosibl fod yr enw yn golygu "Bryn(iau) Gwyn (ap Nudd)" (Cymraeg Cynnar bre 'hill' yn troi'n ber + Gwyn), yn ôl T. Gwynn Jones ac eraill, ac felly'n dwyn enw Gwyn ap Nudd, brenin Y Tylwyth Teg.[1]
[golygu] Disgrifiad
Yn y gorllewin mae'r Berwyn yn dechrau ger Bwlch y Groes, hanner ffordd rhwng pentrefi Mallwyd a Dinas Mawddwy a phentref Llanuwchllyn ar lan Llyn Tegid. Mae'r gadwyn yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain am o gwmpas pymtheg milltir. Y copa cyntaf yw Foel y Geifr, sy'n edrych i lawr ar gronfa dŵr Llyn Efyrnwy a bryniau Powys Fadog. Mae dwy lôn fynydd yn croesi'r ucheldir undonog rhwng y copa hwnnw a Chadair Berwyn (2230'), y gyntaf yn cysylltu Abertridwr ar lan Efyrnwy â'r Bala a'r llall yn mynd o'r Bala i Langynog ac ymlaen i'r Trallwng.
Gorwedd y rhan uchaf o'r Berwyn rhwng Bwlch y Filltir Gerrig ar y lôn olaf honno a Glyndyfrdwy. Mae'r copaon, sydd ddim yn greigiog, yn cynnwys Cadair Berwyn a'i gymydog Moel Sych (2713'), Cadair Fronwen (2572'), Pen-plaenau (1775') a Moel Fferna (2071'). Daw'r Berwyn ei hun i ben uwchlaw Nantyr yng Nglyndyfrdwy, rhwng Corwen a Llangollen.
Nid yw'n gadwyn greigiog, er bod ambell glogwyn, ond yn hytrach mae'n gyfres o foelau agored, grugog iawn, sy'n lle da i adar y mynydd, fel y Cwtiad Aur. Y gadwyn debygach iddi yng Nghymru yw'r Carneddau yng ngogledd Eryri, ond bod y Berwyn yn is a llai syrth.
Ar odrau dwyreiniol y Berwyn ceir sawl llecyn braf diarffordd, fel Llyn Efyrnwy, Pennant Melangell a'i eglwys hynafol, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Pistyll Rhaeadr a Dyffryn Ceiriog. I'r gogledd mae llethrau coediog Coedwig Penllyn, y Bala a Llyn Tegid, Dyffryn Edeirnion a Chorwen.
[golygu] Bywyd gwyllt
Mae'r ardal yn gartref i sawl rhywogaeth o adar yr ucheldir, gan gynnwys adar ysglyfaeth fel y Boda Tinwyn (Circus cyaneus), y Llamsydyn (Falco columbarius), a'r Hebog Tramor (Falco peregrinus) (tua 14-18 o bariau bridiau yn achos pob un o'r rhywogaethau hyn, 1-2% o'r cyfanswm poblogaeth yng ngwledydd Prydain), ac felly'n Ardal Warchod Arbennig. Mae bywyd gwyllt arall yn cynnwys tylluanod clustiog, cigfrain, bodaon, ffwlbartiaid a'r plufynnau aur.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-Custom (1930; arg. new. 1979). Ceir sawl enw lle arall sy'n cynnwys yr elfen 'Gwyn' yn yr ardal.
[golygu] Darllen pellach
- T.I. Ellis, Crwydro Meirionnydd (Llandybie, 1954)
- F. Wynn Jones, Godre'r Berwyn (Hughes a'i Fab, Caerdydd, d.d. = c.1952). Atgofion brodor o Ddyffryn Edeirnion.
- Ioan Bowen Rees, Dringo Mynyddoedd Cymru (Llandybie, 1965). Pennod ar y Berwyn.