Glyndyfrdwy
Oddi ar Wicipedia
Pentref yn Sir Ddinbych yw Glyndyfrdwy; yn flaenorol yn yr hen Sir Feirionnydd. Saif ar y briffordd A5, hanner ffordd rhwng Corwen a Llangollen, ger Afon Dyfrdwy.
Mae'r pentref yn enwog am ei gysylltiad ag Owain Glyndŵr, Arglwydd Glyndyfrdwy. Yn ei blasddy yma y cyhoeddodd Owain ei hun yn Dywysgo Cymru ar 16 Medi 1400. Dinistriwyd y tŷ gan fyddin Seisnig dan y tywysog Harri, yn ddiweddarach Harri V yn 1403, a dim ond olion y sylfeini sydd i'w gweld geddiw. Gerllaw mae olion castell mwnt a beili o'r 12fed ganrif.
Yn Neuadd Goffa Owain Glyndŵr, gellir gweld copi o Lythyr Pennal a llythyr yn cadarnhau apwyntiad Canghellor Owain, Gruffydd Yonge, a brawd-yng-nghyfraith Owain, John Hanmer, fel llysgenhadon i frenin Ffrainc.
Crewyd plwyf Glyndyfrdwy yn 1866; cyn hynny roedd yn rhan o blwyf Corwen. Agorwyd gorsaf reilffordd yma yn 1866. Caewyd hi yn y 1960au, ond ail-agorwyd hi fel gorsaf ar Reilffordd Llangollen yn 1992.
Roedd R. J. Berwyn, un o arloeswyr Y Wladfa, yn enedigol o Lynceiriog.
Trefi a phentrefi Sir Ddinbych |
Aberchwiler | Betws Gwerful Goch | Bodelwyddan | Bodfari | Bontuchel | Bryn Saith Marchog | Bryneglwys | Cefn Meiriadog | Corwen | Cyffylliog | Cynwyd | Derwen | Dinbych | Diserth | Y Ddwyryd | Efenechtyd | Eryrys | Gallt Melyd | Glyndyfrdwy | Gwyddelwern | Henllan | Llanarmon-yn-Iâl | Llanbedr Dyffryn Clwyd | Llandegla-yn-Iâl | Llandrillo | Llandyrnog | Llanelidan | Llanelwy | Llanfair Dyffryn Clwyd | Llanferres | Llangollen | Llangwyfan | Llangynhafal | Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch | Llanynys | Melin y Wig | Nantglyn | Pandy'r Capel | Prestatyn | Prion | Rhewl | Rhuallt | Rhuddlan | Rhuthun | Y Rhyl | Sodom | Tafarn-y-Gelyn | Trefnant | Tremeirchion |