Pennant Melangell
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan ym mryniau Maldwyn, gogledd-orllewin Powys, yw Pennant Melangell. Gorwedd ym mhen uchaf Cwm Pennant tua 2.5 milltir i'r gorllewin o bentref Llangynog. Gorweddai yng nghantref Mochnant yn yr Oesoedd Canol.
Mae afon Tanad, sy'n rhedeg trwy'r cwm, yn tarddu yn uchel ar y bryniau i'r gorllewin o Bennant Melangell.
Enwir y pentref ar ôl Santes Melangell (6ed ganrif neu'r 7fed ganrif), nawddsant y plwyf. Yn ôl traddodiad, roedd yn enedigol o Iwerddon ac yn ferch i frenin. Ffôdd i osgoi priodas oedd wedi ei threfnu iddi gan ei thad, a daeth i Bowys i fyw fel meudwyes yng Nghwm Pennant. Un diwrnod daeth Brochwel (Brochfael), brenin Powys, (Brochwel Ysgithrog efallai) i'r dyffryn i hela. Ymlidiodd ei gŵn hela ysgyfarnog, a redodd at Felangell a llochesu dan ei gwisg. Gwnaeth hyn ddigon o argraff ar Brochwel nes peri iddo roi'r tir yn y cwm iddi, a elwir yn awr yn Bennant Melangell. Daeth Melangell yn abades lleiandy bychan yno.
Yn yr hen eglwys, a gysegrir i'r santes, gellir gweld creirfa Melangell, sydd wedi ei hail-adeiladu wedi iddi gael ei dinistrio adeg y Diwygiad Protestannaidd ac sy'n un o'r esiamplau gorau o'i fath ym Mhrydain ac yn unigryw yn ei chynllun. Ceir cerfluniau o sgwarnogod ar ysgrîn y Grog. Codwyd yr adeilad bresennol yn y 12fed ganrif. Amgylchynir yr eglwys gan llan fawr sy'n cynnwys coed yw hynafol.
Roedd yr eglwys yn gyrchfan boblogaidd i bererinion yn yr Oesoedd Canol, ac yn ddiweddar mae cyngor sir Powys wedi creu llwybr "Pererindod Melangell" yn arwain yno.
[golygu] Cyfeiriadau
- T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoediadau Glyndŵr, 2001).
- C. A. Ralegh Radford, 'Pennant Melangell: The Church and the Shrine', Archaeologia Cambrensis, CVIII, 1959.