Mallwyd
Oddi ar Wicipedia
![Rhaeadrau ger Mallwyd](../../../../images/shared/thumb/6/6e/Tivedshambo_2006-10-28_Mallwyd_waterfalls.jpg/250px-Tivedshambo_2006-10-28_Mallwyd_waterfalls.jpg)
Pentref bychan a phlwyf yn ne-ddwyrain Gwynedd yw Mallwyd. Fe'i lleolir yn nyffryn Afon Dyfi ar lôn priffordd yr A470 tua hanner ffordd rhwng Dolgellau a Machynlleth. Ar bwys y pentref mae cyffordd yr A458 o gyfeiriad Y Trallwng. Y pentrefi agosach yw Dinas Mawddwy, tua dwy filltir i'r gogledd, ac Aberangell i'r de. Mae Afon Dugoed yn aberu yn Afon Dyfi ger y pentref.
[golygu] Hanes
Saif y pentref bron ar yr hen ffîn rhwng Sir Feirionnydd a Sir Drefaldwyn. Hen enw'r pentref oedd 'Tre'r llan', safle eglwys plwyf Mallwyd yn hen gwmwd Mawddwy. Hon oedd ardal Gwylliaid Cochion Mawddwy, a goffheir o hyd yn enw y dafarn The Brigands yn y pentref.
[golygu] Yr eglwys
Yn ôl traddodiad sefydlwyd eglwys Mallwyd gan Sant Tydecho yn y 6ed ganrif ar ôl iddo ddod i'r ardal o Gernyw. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o'r 14eg ganrif ac o adeiladwaith anghyffredin, yn hir ac isel ei ffurf gyda lofftydd yn y ddau ben. Mae llawer o'r ddodrefnu pren yn perthyn i'r 17eg ganrif. Yr ysgolor John Davies oedd rheithor Mallwyd am 30 mlynedd ar ddechrau'r 17eg ganrif; ceir gofeb iddo yn yr eglwys a godwyd ar ddau ganmlyddiant ei farwolaeth.
[golygu] Enwogion
- John Davies - yr ysgolhaig (c. 1567 - 1644)
- Hugh Jones - bardd, emynwr, awdwr (1749 - 1825)
- Richard Davies (Tafolog) - bardd a beirniad (1830 - 1904)
- David Jones (Dewi Wyllt) - cerddor (1836 - 1878)