Y Ddeunawfed Ganrif yng Nghymru
Oddi ar Wicipedia
Erthyglau ynglŷn â Hanes Cymru ![]() |
Cyfnodau |
Cyfnod y Rhufeiniaid · Oes y Seintiau |
Prif deyrnasoedd |
Pobl allweddol |
O. M. Edwards · Gwynfor Evans |
Pynciau eraill |
Cantrefi a chymydau · Cynulliad · Datgysylltu'r Eglwys |
Roedd y ddeunawfed ganrif yng Nghymru yn gyfnod o barhad o rai agweddau ar fywyd crefyddol a chymdeithasol y ganfrif flaenorol ac, ar yr un pryd, yn gyfnod o newidiadau mawr yn y wlad, yn arbennig yn ail hanner y ganrif a osododd Cymru ar lwybr newydd gyda diwydiant yn tyfu'n gyflym a phoblogaeth y trefi'n dechrau cynyddu.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Crefydd ac addysg
Dyma'r ganrif pan oedd y Diwygiad Methodistaidd mewn bri gyda pobl fel Howel Harris, William Williams Pantycelyn a Daniel Rowland yn arwain trwy deithio'r wlad i bregethu o flaen tyrfaoedd mawr. Cafwyd hefyd ysgolion cylchynol Griffith Jones yn y ganrif hon a dyma gyfnod gwaith Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol (SPCK), yn ogystal. Erbyn diwedd y ganrif yr oedd canran sylweddol o'r boblogaeth yn Anghydffurfwyr o ryw fath, ond arosai nifer yn ffyddlon i'r Eglwys yn ogystal.
[golygu] Iaith a diwylliant
Roedd y mwyafrif mawr o'r boblogaeth yn Gymry uniaith Gymraeg o hyd a'r rhan fwyaf yn byw mewn pentrefi a threfi bach cefn gwlad. Roedd caneuon gwerin a barddoniaeth rydd yn boblogaidd, yn arbennig adeg y gwyliau mawr fel y Gwyliau Mabsant. Yn ail hanner y ganrif roedd yr anterliwt ar ei hanterth a phobl yn tyrru i'r llwyfan yn y ffeiriau, yn arbennig yn siroedd y gogledd-ddwyrain.
Cafwyd tyfiant mawr yn y nifer o lyfrau a gyhoeddwyd ynghyd â gwawr newyddiaduriaeth yng Nghymru gyda ymddangosiad y cylchgronau cyntaf. Gosodwyd sylfeini'r Eisteddfod Genedlaethol gyda gwaith y Gwyneddigion yn Llundain ac yn y cylchoedd llenyddol cafwyd math o Ddadeni gyda bri ar bopeth Celtaidd ac ail-ddarganfod meistri'r gorffennol fel Dafydd ap Gwilym a'r Gogynfeirdd diolch i waith Goronwy Owen, Ieuan Fardd a Morrisiaid Môn. Dechreuodd teithwyr ymweld â'r wlad a gwerthfawrogi ei thirwedd "gwyllt" - y twristiaid cyntaf - ac ymledodd dylanwad y Mudiad Rhamantaidd ar lenorion ac artistiad y wlad, fel yr arlunydd enwog Richard Wilson.
[golygu] Rhai uchafbwyntiau
- 1714 - Cymdeithas yr Hen Frythoniaid, y gymdeithas gyntaf i gael ei sefydlu gan y Cymry yn Llundain.
- 1718 - Isaac Carter yn sefydlu argraffdy yn Atpar, Ceredigion, y cyntaf yng Nghymru.
- 1731 - Griffith Jones, Llanddowror, yn sefydlu'r gyntaf o'r Ysgolion Cylchynol Cymreig.
- 1733 - Pasio'r Ddeddf Cau Tiroedd Comin gyntaf; ystadau mawr ar gynnydd ar draul y ffermwyr bychain.
- 1735 - Howel Harris yn dechrau ei waith.
- 1742 - Cyfarfod cyntaf y Gymdeithasfa Fethodistaidd yng Nghymru.
- 1744 - Casgliad emynau cyntaf William Williams (Pantycelyn).
- 1752 - Sefydlu cymuned Trefeca gan Howel Harris.
- 1759 - John Guest yn dechrau datblygu'r gwaith haearn ym Merthyr Tudful a'r dref honno'n tyfu'n gyflym mewn canlyniad.
- 1770 - Sefydlu Cymdeithas y Gwyneddigion.
- 1776 - Llyfr cyntaf Richard Price yn ymddangos.
- 1782 - Yr Arglwydd Penrhyn yn sefydlu'r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru.
- 1789 - Ysgol Sul gyntaf Thomas Charles o'r Bala yn agor.
- 1792 - Sefydlu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain gan Iolo Morganwg
- 1797 - Glanio'r Ffrancod yn Abergwaun.
[golygu] Darllen pellach
- E. D. Evans, A History of Wales, 1660-1815 (Caerdydd, 1976)
- J. J. Evans, Cymry Enwog y Ddeunawfed Ganrif (Aberystwyth, 1937). Bywgraffiadau o rai o'r ffigyrau pwysicaf.
- G. H. Jenkins, Literature, religion and society in Wales, 1660-1730 (Caerdydd, 1978)
- R. T. Jenkins, Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1928). Y gyfrol glasurol ar y cyfnod.
- D. Moore (gol.), Wales in the Eighteenth Century (1976)
- Prys Morgan, The Eighteenth Century Renaissance (Abertawe, 1981). Yn y gyfres 'A New History of Wales'.
- D. Williams, A History of Modern Wales (Caerdydd, 1975)