Ystumanner
Oddi ar Wicipedia
Un o ddau gwmwd cantref Meirionnydd oedd Ystumanner.
Gorweddai ar lan Bae Ceredigion yn hanner deheuol y cantref gyda chwmwd Tal-y-bont i'r gogledd. Dynodai afon Dysynni a ffrwd lai afon Cader, yn Nyffryn Dysynni, ac ysgwydd deheuol Cadair Idris y ffin rhwng y ddau gwmwd. I'r dwyrain ffiniai â chwmwd Mawddwy (o 1284 ymlaen) a chantref Cyfeiliog. Dros aber Dyfi i'r de roedd Genau'r Glyn, Ceredigion.
Mam-eglwys y cwmwd oedd eglwys Tywyn, sy'n dyddio i'r 6ed ganrif. Ceir yr arysgrif Gymraeg gynharaf ar faen yn yr eglwys. Ceid eglwysi pwysig eraill yn Llanfihangel y Pennant, Llanfair Tal-y-llyn, a Pennal.
Roedd yna gastell bychan ger Tywyn, sef Castell Cynfael, a godwyd yn 1147 gan Cadwaladr ap Gruffudd ap Cynan ac a losgwyd yn yr un flwyddyn gan Hywel ab Owain Gwynedd a'i frawd Cynan ab Owain Gwynedd. Ond y prif amddiffynfa yn yr Oesoedd Canol oedd Castell y Bere, ger Llanfihangel y Pennant yn Nyffryn Dysynni (ymddengys fod y ffin rhwng dau gwmwd cantref Meirionnydd wedi newid rywfaint yn yr Oesoedd Canol i wneud plwyf Llanfihangel gyfan yn rhan o Ystumanner). Roedd y mwyafrif o'r trigolion yn byw mewn "trefi" canoloesol yn rhan isaf y cwmwd ar y r arfordir, e.e. Aberdyfi, neu yn y cymoedd, e.e. Corris.
Teithiodd Gerallt Gymro ar hyd arfordir y cwmwd yn 1188 (gweler Hanes y Daith Trwy Gymru). Cysylltir plwyf Pennal â Lleucu Llwyd, cariad y bardd Llywelyn Goch ap Meurig Hen yn y 14eg ganrif.
Yn 1284, gyda Statud Rhuddlan, daeth y cwmwd yn rhan o Sir Feirionnydd. Erbyn heddiw mae'n rhan o dde Gwynedd.
[golygu] Plwyfi
- Llanfair Tal-y-llyn
- Llanfihangel y Pennant (rhan o gwmwd Tal-y-bont yn gynharach)
- Pennal (neu Uwch Biga)
- Tywyn (neu Is Buga)
[golygu] Ffynonellau
- Melville Richards, 'Rhaniadau'r Canol Oesoedd', yn Atlas Meirionnydd (Y Bala, 2il arg. 1975)