Aberdyfi
Oddi ar Wicipedia
Tref fach ar lan ogleddol aber eang Afon Dyfi ym Meirionnydd, de Gwynedd yw Aberdyfi. Mae ar yr A493 a Rheilffordd y Cambrian, rhwng Pennal a Machynlleth i'r dwyrain a Thywyn i'r gogledd. Twristiaeth yw'r prif ddiwydiant yno heddiw. Mae traeth eang tywodlyd yn ymestyn am filltiroedd o Aberdyfi i Dywyn ac mae'n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr haf.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Yr hen fferi
Ar un adeg bu gwasanaeth cwch fferi yn cysylltu Aberdyfi ag Ynys Tachwedd, ger y Borth, ar lan ddeheuol Afon Dyfi. Mae'n bosibl mai fan hyn y croesodd Gerallt Gymro a Baldwin, Archesgob Caergaint ar eu ffordd i'r gogledd ym 1188; "croesasom yr afon mewn cwch," meddai Gerallt yn ei lyfr Hanes y Daith Trwy Gymru.
[golygu] Diwylliant a thraddodiadau
Mae'r dref yn enwog am y gân werin adnabyddus "Clychau Aberdyfi", a gysylltir weithiau â chwedl Cantre'r Gwaelod. Cyhoeddwyd yr alaw gan Maria Jane Williams (Llinos) (1795 - 1883) yn y gyfrol Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg (1844). Yn ddiweddarach ysgrifennodd Ceiriog eiriau i'r alaw yn ogystal. Mae'r nofel The Misfortunes of Elphin gan Thomas Love Peacock yn gymysgiad bwrlesg o draddodiad "Clychau Aberdyfi", chwedl Cantre'r Gwaelod ac elfennau o'r chwedl Hanes Taliesin.
[golygu] Enwogion
- Ieuan Dyfi (1461 - 1500), bardd.
- Thomas Francis Roberts (1860 - 1919), Prifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth.
[golygu] Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan Aberdyfi ar y BBC
- (Saesneg)Gwefan y BBC ar Gantre'r Gwaelod
- Gwefan Aberdyfi