Robin Goch
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Robin Goch | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
||||||||||||||
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Erithacus rubecula Linnaeus, 1758 |
Mae'r Robin Goch (Erithacus rubecula) yn un o'r mwyaf adnabyddus o'r holl adar. Arferai gael ei ystyried yn aelod o deulu'r Turdidae, y bronfreithod, ond yn ddiweddar mae wedi ei ail-ddosbarthu i deulu'r Muscicapidae.
Mae'n aderyn cyfarwydd am ei fod yn hawdd ei adnabod gyda'i frest goch, ac am ei fod yn aderyn dôf yn Ynysoedd Prydain, yn barod i ddod yn agos iawn at unrhyw un sy'n gweithio yn yr ardd, er enghraifft, i chwilio am bryfed. Ambell dro mae hyd yn oed yn barod i ddod i mewn i dai i gael ei fwydo. Mewn rhannau o'r gweddill o Ewrop nid yw mor ddôf.
Yn anarferol, mae'r Robin Goch yn canu trwy'r flwyddyn, nid yn y gwanwyn yn unig. Mae'r gân yn yr hydref a'r gaeaf yn wahanol i'r gân yn y gwanwyn a'r haf. Mae'n nythu mewn unrhyw dwll neu gornel addas. Gall fod yn aderyn ymosodol dros ben - os daw Robin Goch arall i mewn i'w diriogaeth gallant weithiau ymladd nes i un ladd y llall. Gall unrhyw ddarn bach o liw coch wneud i'r aderyn ymosod.
Nid yw'n aderyn mudol yn y rhannau hynny lle nad yw'r gaeaf yn arbennig o oer, ond er enghraifft mae adar o Scandinafia a Rwsia yn dod i Brydain i aeafu. Gellir eu hadnabod trwy fod y fron yn fwy oren yn hytrach na choch.
Mae llawer o chwedloniaeth ynglŷn â'r Robin Goch, er enghraifft i egluro sut y cafodd ei fron goch. Ystyrir y Robin yn symbol o'r Nadolig, ac mae i'w weld yn aml ar gardiau Nadolig. Mae'n aderyn cyffredin iawn yng Nghymru, ac ychydig o erddi sydd heb Robin Goch o'u cwmpas.