Ton
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Defnyddir tonnau i symud egni neu neges o un lle i'r llall. Gellir rhannu ton mewn i ddau gategori ardraws neu arhydol.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Tonnau Arhydol
Mewn tonnau arhydol mae'r gronynnau yn symud yn ôl ac ymlaen ar hyd cyfeiriad teithio'r ton. Esiamplau o'r rhain yw tonnau sain a thonnau seismig cynradd (tonnau P).
[golygu] Tonnau Ardraws
Mewn ton ardraws, bydd y gronynnau yn symud yn ôl ac ymlaen mewn cyfeiriad sy'n normal i gyfeiriad y ton. Esiamplau o'r rhain yw tonnau dŵr a thonnau seismig eilradd (tonnau S). Mae'r tonnau electromagnetig yn tonnau ardraws hefyd, ond nid mater sy'n trosgwyddo'r dirgryniadau ar gyfer y rhain ond meusydd trydanol a magnetig.
[golygu] Mesur Tonnau
Mae llawer o unedau i fesur mewn ton:
- Tonfedd (λ) = Mesurir mewn metrau fel uned SI. Hyd un ton gyfan yw tonfedd, ac fe'i mesurir o frig i frig neu o gafn i gafn.
- Amledd (f) = Mesurir mewn Hertz (Hz), dyma yw faint o dirgryniadau mae'r don yn ei wneud pob eiliad
- Cyflymder (v) = Mesurir mewn metrau yr eiliad, dyma faint o gyflym mae'r don yn symud.
- Osgled (y) = Y pellter mae gronyn yn cael ei symud o'i fan cychwyn.
[golygu] Hafaliadau
Mae perthynas syml yn bodoli rhwng amledd, tonfedd a chyflymder ton:
- ν = λf
[golygu] Gweler hefyd
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.