Ambr
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ffosil resin sydd ddim yn mwyn ond yn cael ei ddefnyddio i wneud tlysau yw ambr. Yn ogystal ag ambr naturiol mae ambr artiffisial neu ffug sydd yn yml iawn i'r hyn naturiol.
Mae'r Môr Baltig yn enwog iawn am ei ambr. Heddiw, ceir llawr ohono ei cloddio ar pentir mawr ger Kaliningrad (Rwsia), yn bennaf ger Jantarnij. Mae ambr y Môr Baltig wedi ffurfio o resin conwydd hyd at 260 miliwn o flynyddoedd yn ôl a weithiau mae'n cynnwys ffosiliau planhigion neu anifeiliaid - yn bennaf pryfed - oedd yn sefyll ar y coeden pan ddaeth y resin allan.
[golygu] Nodweddion
Fel arfer mae ambr yn melyn neu lliw arian, ond mae rhai sydd yn dipyn o goch neu brown, hefyd. Gall e fod yn dryloyw neu yn gymylog, ond mae ambr sydd yn dipyn o las yn brin iawn. Mae lliw wyneb ambr yn newid ac yn tywyllu trwy ocsigen a goleuni. O'r diwedd, mae ei hwyneb yn caledu ac yn cracio.
Mae'n bosib llosgi ambr naturiol a mae'r fflam yn ddilglair iawn, ond yn cynhyrchu llawer o huddygl. Er fod ambr yn meddal iawn mae e'n troi i mater du, caled wedi ei llosgi.
Mae ambr yn ysgafn iawn a mae ei dwysedd yn isel. Am hynny, mae e'n arnofio ar dŵr halen er yn boddi mewn dŵr ffres.
Pan yn rwbio ambr gan brethyn gwlân neu lledr, ceir gwefr electrostatig ar ambr ac o ganlyniad mae'n atynnu llwch a darnau papur.
Gellir penderfynu os yw ambr yn un naturiol neu un ffug trwy ddefnyddio ether: Er fod dim ond wyneb ambr naturiol yn troi'n bŵl, mae ambr ffug yn troi'n meddal iawn neu yn toddi mewn ether.