Arcangelo Corelli
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cyfansoddwr a fiolinydd o'r Eidal oedd Arcangelo Corelli (1653 - 1713).
Cyfansoddodd nifer o sonatas i'r fiolin ac yn ogystal sefydlodd y concerto grosso fel ffurf gerddorol. Daeth y concerto grosso, sy'n cyferbynu grŵp bach o offerynnau â cherddorfa lawn, yn un o hoff ffurfiau'r cyfansoddwyr baroque yn y 18fed ganrif.
Gwaith mwyaf adnabyddus Corelli yw Concerto'r Nadolig.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.