Cytundeb Versailles
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cytundeb rhyngwladol rhwng y Cynghreiriad a'r Almaen orchyfygiedig ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf oedd Cytundeb Versailles. Cafodd ei arwyddo yn Versailles, Ffrainc, ar ddiwedd Cynhadledd Heddwch Paris, yn y flwyddyn 1919.
Yn ôl termau'r cytundeb roedd yr Almaen yn euog o achosi'r rhyfel a gorchmynwyd iddi dalu iawndal a chyfyngu nerth ei lluoedd arfog. Yn ogystal bu rhaid iddi adfer tiriogaethau Alsace a Lorraine i Ffrainc, ildio rhannau o ddwyrain yr Almaen (Prwsia) i Wlad Pwyl a derbyn meddiant milwrol y Cynghreiriad ar y Rheinland. Ar ben hynny oll gwnaethpwyd y mwyafrif o drefedigaethau'r Almaen - yn Affrica yn bennaf - yn diriogaethau mandad yng ngofal Cynghrair y Cenhedloedd.
Gwrthododd yr Unol Daleithiau arwyddo'r cytundeb tan 1921.
Un o ganlyniadau termau Cytundeb Versailles oedd y dirwasgiad mawr yn yr Almaen yn y 1920au a dechrau'r 1930au. Yn ogystal porthai teimladau cenedlaetholgar ac imperialistaidd ymhlith yr Almaenwyr. Arweiniai hyn yn y pen draw at dwf Natsïaeth a llywodraeth ffasgaidd Adolf Hitler.