Natsïaeth
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ideolegau Gwleidyddol |
---|
Anarchiaeth |
Ceidwadaeth |
Cenedlaetholdeb |
Comiwnyddiaeth |
Democratiaeth Gristnogol |
Democratiaeth sosialaidd |
Ffasgiaeth |
Ffeministiaeth |
Gwleidyddiaeth werdd |
Islamiaeth |
Natsïaeth |
Rhyddewyllysiaeth |
Rhyddfrydiaeth |
Sosialaeth |
Y wedd fwyaf eithafol ar Ffasgaeth, "Sosialaeth Genedlaethol" oedd yr enw swyddogol ar y syniadaeth Natsïaeth, oedd wedi'i seilio ar oruchafiaeth honedig yr hil Ariaidd, ac yn benodol y pobloedd Almaenig, dros y bob hil arall, yn enwedig Slafiaid ac Iddewon. Ystyrid yr Almaenwyr yn Herrenvolk: "meistr-hil".
O fod yn griw bach di-nod, fe dyfodd y Blaid Natsïaidd yn y blynyddoedd anodd wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf i fod yn brif blaid yr Almaen. Manteisiodd y blaid ar drybini economaidd y wlad, gan wneud bwch dihangol o'r Iddewon.
Roedd militariaeth hefyd yn elfen gref mewn Natsïaeth, ac roedd pwyslais mawr ar ehangu'r diriogaeth Almaenig trwy rym arfog er mwyn creu Lebensraum: "lle i fyw" i Almaenwyr.
Pen draw Natsïaeth oedd yr Ateb Terfynnol, sef ymgais i ddileu'r Iddewon oddi ar gyfandir Ewrop.