Gwyddoniadur
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cyfrol ysgrifenedig gynhwysfawr, sy'n cynnwys gwybodaeth am bwnc neu amrywiaeth o bynciau yw gwyddoniadur.
[golygu] Hanes y gwyddoniadur
Ysgrifenwyd cyfrolau gwyddoniadurol gan rhai o awduron Groeg yr Henfyd, megis Aristoteles, a gan Plinius. Un o brif ganolfannau i weithgarwch o'r fath oedd Llyfrgell enwog Alecsandria yn Yr Aifft.
Yn ystod yr Oesoedd Canol, datblygwyd y dull gwyddonol a'r arfer o nodi ffynhonellau gan ysgolheigion Mwslemaidd, a chynhyrchwyd sawl cyfrol cynhwysfawr. Ymysg y rhai mwyaf nodedig yw gwaith Abu Bakr al-Razi ar wyddoniaeth, 270 llyfr Al-Kindi, gwyddoniadur meddygol Ibn Sina, a chyfrolau hanes y Ash'ari, al-Tabri, al-Masudi, ac eraill.
Ysgrifenodd Cassiodorus (c.490 - c.580) wyddoniadur ar ddysg a'r Saith Celfyddyd, sef yr Institutiones divinarum et saecularium litterarum. Daeth y llyfr yn waith safonol yn yr Oesoedd Canol a astudid ledled Ewrop.
Datblygodd y gwyddoniadur modern o'r geiriadur yn ystod y 18fed ganrif. Ymysg cyfrolau arloesol y ganrif honno oedd y Cyclopaedia, or Universal Dictionary of Arts and Sciences, Encyclopædia Britannica, a'r Brockhaus Konversations-Lexikon.
Cyhoeddwyd y gwyddoniadur aml-gyfrol Cymraeg cyntaf mewn deg cyfrol rhwng 1854 a 1879 dan yr enw Y Gwyddoniadur Cymreig, dan olygyddiaeth gyffredinol John Parry (1812-1874).
Daw'r gair am wyddoniadur mewn llawer o ieithoedd (Saesneg encyclopaedia a (Ffrangeg encyclopédie er enghraifft) o'r gair Lladin Canol encyclopaedia, o'r gair Roeg ενγκύκλια παιδεία "addysg gyffredinol". Mae gan y Gymraeg gair cynhenid am wyddoniadur, ac yn anniferol yn hynny o beth.
[golygu] Gweler hefyd
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.