Jan Hus
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Athronydd a diwygiwr crefyddol Tsiecaidd oedd Jan Hus (tua 1369–71 - 6 Gorffennaf 1415). Roedd yn offeiriad ac am gyfnod yn rector Prifysgol Siarl, Prag. Roedd yr Eglwys Babyddol yn ystyried ei ddysgeidigaethau yn heresi, ac felly fe'i hesgymunwyd a'i losi wrth y stanc yng Ngorffennaf 1415.
Mae ei ysgrifeniadau sylweddol yn llunio rhan bwysig o lenyddiaeth Tsieceg y Canol Oesoedd. Ystyrir Hus fel un o ragflaenyddion pwysicaf y Diwygiad Protestannaidd.
Dethlir gŵyl gyhoeddus ar 6 Gorffennaf, diwrnod ei ddienyddiad, yn y Weriniaeth Tsiec er parch iddo.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.