Malteg
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Malteg yw iaith genedlaethol Malta ac yn un o ddwy iaith swyddogol yr ynys (Saesneg yw'r llall). Mae yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. Mae ganddi ryw 371,900 o siaradwyr. Malteg yw'r unig iaith Semitaidd sy'n cael ei hysgrifennu o'r chwith i'r dde ac sy'n defnyddio'r wyddor Rhufeinig. Mae tua 60% o eirfa'r iaith yn Semitaidd, gyda'r gweddill at ei gilydd yn dod o ieithoedd Romawns ac Eidaleg Sicilia yn bennaf. Daw'r rhan fwyaf o'r eirfa "sylfaenol" o wreiddiau Semitaidd, ac mae'r geiriau sy'n ymwneud â llywodraeth a dysg yn dod o Eidaleg Sicilia e.e. dar yw "tŷ", ond skola yw "ysgol". Mae wedi benthyg nifer o eiriau o'r Saesneg sy'n ymwneud â byd gwaith e.e. strajk ("streic"), union, leave a bonus.
Mae llawer yn ystyried Malteg fel tafodiaith o Arabeg ond mae Malteg yn agos iawn i Aramaeg. Mae hi'n debyg mai Malteg yw'r iaith fodern agosaf i'r iaith roedd Iesu Grist yn ei siarad.
Y ddogfen hynaf mewn Malteg yw "Il Cantilena", cerdd o'r 15g a luniwyd gan Pietro Caxaro. Am ganrifoedd, iaith lafar yn unig oedd Malteg, gydag Arabeg yn gwasanaethu fel iaith lenyddol, ac yn ddiweddarach, Eidaleg. Eidaleg oedd yr iaith swyddogol ar yr ynys tan 1936 pan ddaeth Malteg a Saesneg yn swyddogol.
[golygu] Ymadroddion cyffredin
- Bongu! : Bore/P'nawn da! (cynaniad; bonjw)
- Bonswa! : Noswaith dda!
- Il-lejl it-tajjeb! : Nos da! (cynaniad; il-leil it-taieb)
- Sahha! : Da boch chi!
- Caw! : Hwyl (fawr)! (cynaniad; shâw)
- Skuzi! : Esgusodwch fi!
- Skuzani! : Mae'n flin gen i!
- Jeg joghbok! : Os gwelwch chi'n dda! (cynaniad; iec iôjboc)
- Grazzi (hafna)! : Diolch (yn fawr)! (cynaniad; gratsi haffna)
- Iva : ie/oes/do etc.
- Le : na