Plovdiv
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ail ddinas Bwlgaria yw Plovdiv (Bwlgareg Пловдив, Groeg Philippopolis / Φιλιππούπολη). Poblogaeth y ddinas yw tua 378,000 (amcangyfrif, diwedd 2004), a phoblogaeth rhanbarth Plovdiv yw 715,816 (Cyfrifiad 2001).
Mae pobl yn byw ar safle heddiw Plovdiv ers 8000 o flynyddoedd. Yn 342 CC, goresgynwyd y ddinas gan Philip II o Facedon, a'i gwnaeth yn brifddinas o'i deyrnas gan ei hailenwi ar ôl ei hunan Philippopolis (dinas Philip). Roedd Plovdiv, o dan ei enw Rhufeinig Trimontium (dinas y tri bryn), yn ddinas bwysig yng ngyfnod y Rhufeiniaid ac yn brifddinas o'r rhanbarth Rhufeinig Thracia. Yn y 1970au, darganfuwyd amphitheatr Rhufeinig godidog yno.
[golygu] Gefeilldrefi
|
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.