Y Taleban
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mudiad Pasthunaidd a Islam Swnni piwritanaidd a reoledd y mwyafrif o Afghanistan o 1996 nes 2001 yw'r Taleban (Dari: طالبان; myfyrwyr), sydd ar hyn o bryd yn ymladd rhyfel herwfilwrol yn erbyn lluoedd tramor yn Afghanistan.
Pan oeddent wrth y llyw yn y wlad, adnabwyd Emirad Islamaidd Afghanistan yn ddiplomyddol gan dair gwladwriaeth yn unig: yr Emiradau Arabaidd Unedig, Pacistan, a Saudi Arabia. O dan Mwlah Mohammed Omar, arweinydd y mudiad, bu fwlah yh rheoli pob pentref, y rhan fwyaf ohonynt gydag addysg o ysgolion crefyddol Islamaidd ym Mhacistan. Daeth bron 98% o fudiad y Taleban o Basthuniaid Afghanistan a Gogledd Pacistan, ond bu'n cynnwys canran bychan o wirfoddolwyr o weddill Ewrasia nad oedd yn Bashtunaidd.
Daeth y Taleban yn ddrwg-enwog am eu triniaeth o fenywod. Gorfodwyd menywod i wisgo'r burqa ar goedd; ni chaniateir iddynt gweithio; ni chaniateir iddynt cael eu haddysgu ar ôl oed wyth, ac nes hynny caniateir iddynt astudio'r Coran yn unig; ni chaniateir iddynt cael eu trin gan feddygon gwrywol heb warchodwr; a gwynebant chwipio cyhoeddus a'r gosb eithaf am droseddu yn erbyn cyfraith y Taleban.
Prif ddigwyddiadau | Erthyglau penodol | Gwledydd a mudiadau | ||
|
|
yn erbyn |