Owain ab Urien
Oddi ar Wicipedia
Un o arweinwyr Brythoniaid yr Hen Ogledd a ddaeth yn ffigwr pwysig yn rhamantau'r Oesoedd Canol oedd Owain ab Urien neu Owain fab Urien (fl. 6ed ganrif). Roedd yn fab i Urien Rheged, brenin Rheged.
Cysylltir Owain ab Urien â'r bardd hanesyddol Taliesin. Yn Llyfr Taliesin cedwir testunau dwy gerdd a ganodd Taliesin iddo. Yn 'Gwaith Argoed Llwyfain' ymddengys fod Owain yn arwain byddin ei dad Urien (a oedd erbyn hynny'n rhy hen i ymladd efallai) yn erbyn byddin o Eingl-Sacsoniaid a arweinir gan Fflamddwyn. Mae'r ail gerdd yn farwnad i Owain, yr hynaf yn y Gymraeg. Mewn pennill enwog dywedir fod Owain wedi lladd Fflamddwyn. Roedd mor hawdd iddo a syrthio i gysgu ac rwan mae nifer o'r gelyn yn "cysgu" â'u llygaid yn agored i olau'r dydd:
- 'Pan laddodd Owain Fflamddwyn
- Nid oedd fwy nog yd cysgaid;
- Cysgid Lloegr, llydan nifer,
- Â lleufer yn eu llygaid.'
- (Canu Taliesin, cerdd X 'Marwnad Owain', mewn orgraff ddiweddar)
Crybwyllir Owain sawl gwaith yn y cylch o gerddi cynnar a elwir yn 'Canu Llywarch Hen'. Yno fe'i gelwir yn 'Owain Rheged' gan bwysleisio ei ran yn amddiffyn ac arwain y deyrnas honno. Yn ôl buchedd y sant Cyndeyrn, a gyfansoddwyd yn y 12fed ganrif, mae Owain yn dad i'r sant, ond amheuir hynny gan y mwyafrif o ysgolheigion.
Erbyn yr Oesoedd Canol yr oedd Owain, fel sawl cymeriad hanesyddol arall o'r Hen Ogledd (e.e. Taliesin fel Taliesin Ben Beirdd), wedi troi'n ffigwr chwedlonol. Mae'n arwr y rhamant Iarlles y Ffynnon, un o'r Tair Rhamant Cymraeg, ac yn ymddangos fel Yvain yn y gerdd Le Chevalier au Lion ('Y Marchog a'r Llew') gan y Ffrancwr Chrétien de Troyes. Mae Owain ab Urien yn gymeriad amlwg yn y chwedl ddychanol Breuddwyd Rhonabwy yn ogystal. Yn y gweithiau hyn i gyd cysylltir Owain â chylch y brenin Arthur (yntau wedi troi'n ffigwr chwedlonol). Ceir nifer o gyfeiriadau at Owain yng ngwaith Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr yn ogystal, weithiau fel 'Marchog y Ffynnon' neu 'Marchog y Cawg'.
[golygu] Ffynonellau a darllen pellach
- Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd 1961; argraffiad newydd 1991)
- R. L. Thomson (gol.), Owein (Dulyn, 1986)
- Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
|
|
---|---|
Teyrnasoedd: |
Aeron • Dál Riata • Elmet • Gododdin • Manaw Gododdin • Rheged • Ystrad Clud |
Pobl: |
Aneirin • Brân Galed • Coel Hen • Cunedda • Cyndeyrn • Cynfarch • Dyfnwal Frych • Dygynnelw • Elffin ap Gwyddno • Fflamddwyn • Gwallog • Gwenddolau • Mynyddog Mwynfawr • Myrddin Wyllt • Nudd Hael • Owain ab Urien • Rhydderch Hael • Talhaearn • Taliesin • Tristfardd • Tudwal Tudclyd • Urien Rheged |
Lleoedd: |
Arfderydd • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Ynys Metcauld |
Gweler hefyd: |