Iolo Goch
Oddi ar Wicipedia
Bardd oedd Iolo Goch (tua 1320 - 1398/1400) ac un o'r cywyddwyr pwysicaf a mwyaf dylanwadol. Roedd yn gyfaill i'r bardd Llywelyn Goch ap Meurig Hen. Mae'n adnabyddus am ei ganu i'r Tywysog Owain Glyndŵr a'i ddisgrifiad o'i lys.
Ganwyd Iolo Goch yn nhregordd Lleweni, Dyffryn Clwyd. Dyma ei ach yn ôl llawysgrif Peniarth 127 (c. 1510): Iolo Goch ab Ithel Goch ap Cynwrig ab Iorwerth ap Cynwrig Ddewis Herod ap Cowryd ap Perfarch ab Iarddur ap Llywelyn ap Meuter Fawr ap Hedd ap Alunog o Uwch Aled. Yn ôl traddodiad enw ei wraig oedd Margred ferch Adda Fychan.
Mae Araith Iolo Goch yn un o destunau mwyaf adnabyddus yr Areithiau Pros, ond mae'n ddiweddarach nag oes y bardd ei hun.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Ei waith barddonol
Gellid dosbarthu cerddi Iolo Goch yn gerddi mawl a marwnadau, canu serch, cerddi crefyddol a chanu dychan. Cywyddau ac englynion ydynt yn bennaf.
[golygu] Cerddi mawl
Yn ei ganu mawl mae gan Iolo gywyddau i Syr Hywel y Fwyall, Cwnstabl Castell Cricieth, y brenin Edward III o Loegr, meibion Tudur Fychan o Fôn, Syr Rhosier Mortimer, Ieuan Esgob Llanelwy, Dafydd ap Bleddyn (yntau'n esgob Llanelwy hefyd) ac i lys Hywel Cyffin, deon Llanelwy. Yn ogystal canodd dri chywydd arbennig i Owain Glyndŵr, un yn olrhain achau Owain, un arall yn fawl iddo fel arweinydd a'r llall yn moli llys y tywysog yn Sycharth (yn y 1390au neu'r 1380au) lle cawsai Iolo groeso cynnes ar bob ymweliad.
[golygu] Marwnadau
Canodd Iolo farwnadau i Dudur o Fôn a'i feibion, Syr Rhys ap Gruffudd, ac Ithel ap Robert. Yn fwy arbennig, ceir ar glawr dair marwnad bwysig i'r beirdd Dafydd ap Gwilym, Llywelyn Goch ap Meurig Hen ac Ithel Ddu.
[golygu] Canu serch
Cyfansoddodd Iolo Goch ddau gywydd serch. Yr enwocaf ohonyn nhw yw'r gerdd Chwarae Cnau I'm Llaw, sy'n portreadu'r bardd ei hun yn chwarae'n gellweirus â merch ifanc, Y ferch a wisg yn sientli, / Main ei hael a mwyn yw hi.
[golygu] Canu dychan
Mae Iolo'n adnabyddus hefyd am ei ganu dychan, yn arbennig y gyfres o gywyddau i fynachod, ei gyd-feirdd Hersdin Hogl a'r Gwyddelyn, a'r eglwyswr Madog ap Hywel.
[golygu] Cywydd y Llafurwr
Dyma'r enwocaf o gerddi Iolo, mae'n debyg. Mae'n gerdd a ddyfynir yn aml am ei disgrifiadau bachog o ormes y cyfoethogion ar draul y tlodion, a gynrychiolir gan y Llafurwr, ac am ei naws genedlaetholgar.
[golygu] Llyfryddiaeth
- D.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988). Y golygiad safonol diweddaraf o waith y bardd, gyda rhagymadrodd a nodiadau.
- Dafydd Johnston, Iolo Goch (Caerdydd, 1989). Arolwg o waith Iolo yn y gyfres Llên y Llenor.
- Henry Lewis, Thomas Roberts ac Ifor Williams (gol.), Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, 1350-1450 (Bangor, 1925; ail arg. Caerdydd, 1937)